Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Ddinbych (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Honnwyd bod yr Aelod wedi gwneud sylwadau gwahaniaethol am gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn sesiwn hyfforddi gan y Cyngor. Yn ogystal, honnwyd bod yr Aelod wedi gwneud sylwadau o natur wahaniaethol am recriwtio menywod i’r sector gofal mewn cyfarfod o Bwyllgor y Cyngor.
Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd ymddygiad yr Aelod yn awgrymu bod amodau paragraffau 4(a), 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod wedi cael eu torri. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys dogfennau a chofnodion perthnasol. Cafodd sawl tyst, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld. Fodd bynnag, roedd hi’n anodd cael tystiolaeth gan bawb a oedd yn bresennol yn sesiwn hyfforddi’r Cyngor. Cafodd yr Aelod ei gyfweld fel rhan o’r ymchwiliad.
Mewn perthynas â’r digwyddiad cyntaf, dywedodd yr Aelod ei fod yn anghytuno â’r safbwyntiau a amlinellwyd yn y sesiwn hyfforddi, a mynegodd hyn i ddarparwyr y cwrs. Eglurodd yr Aelod ei fod wedi datgan ei farn, ar sail ei brofiadau personol a phrofiadau ei etholwyr. Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gasglwyd, penderfynodd yr Ombwdsmon y gellid ystyried sylwadau’r Aelod yn fynegiant gwleidyddol ac roedd felly’n denu mwy o amddiffyniad. Yn unol â hynny, roedd gan yr Aelod hawl i fynegi ei farn. Nid oedd y dystiolaeth a gasglwyd yn awgrymu bod y sylwadau wedi’u cyfeirio at gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar sail eu cefndir neu eu hethnigrwydd. Felly, canfu’r Ombwdsmon y byddai unrhyw ganfyddiad o dorri amodau’r Cod yn debygol o fod yn ymyrraeth anghymesur â hawl yr Aelod i ryddid mynegiant. Nododd yr Ombwdsmon nad oedd wedi esgusodi ymddygiad yr Aelod, a nododd – ar ôl gweld y dystiolaeth a gasglwyd – y bydd yr Aelod nawr yn deall lefel y gofid a achoswyd ac o bosib yn dymuno mynd ati i ymddiheuro i unrhyw un a oedd wedi cael ei effeithio oherwydd hyn.
O ran yr ail ddigwyddiad, ar ôl ystyried y dystiolaeth a gasglwyd, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y rhesymeg dros sylwadau’r Aelod yn amhriodol. Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod yn cydnabod bod ei sylwadau’n amhriodol ac y gellid ystyried eu bod yn wahaniaethol. Gallai’r sylw eang yn y cyfryngau ddwyn anfri ar yr Aelod, yn bersonol.
Wrth ystyried a oedd angen cymryd camau pellach, nododd yr Ombwdsmon y byddai sylwadau’r Aelod yn denu mesurau diogelu Erthygl 10. Nododd yr Ombwdsmon hefyd fod yr Aelod wedi cael ei herio’n gadarn ar unwaith ar y sylwadau a wnaeth, a phan gafodd ei gyfweld roedd yn cydnabod bod ei sylwadau’n anghywir ac yn mynegi edifeirwch am yr hyn a ddywedodd. Ymddiheurodd yr Aelod am yr hyn a ddywedodd a nododd na fyddai’n ailadrodd ymddygiad o’r fath yn y dyfodol. Yn unol â hynny, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi y byddai camau pellach yn gymesur nac er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, argymhellodd y dylai’r Aelod ymddiheuro’n ffurfiol, ac ar goedd, am ei sylwadau.
O dan Adran 69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oes angen cymryd camau pellach mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.