Dyddiad yr Adroddiad

26/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Pentir

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202401052

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Pentir (“y Cyngor Cymuned”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).  Honnwyd bod yr Aelod yn amharod i ganiatáu i’r Achwynydd (sydd hefyd yn aelod o’r Cyngor Cymuned) ymgysylltu â Chwmni Dylunio Gwefannau allanol a dywedodd “because you’re not Welsh” oedd y rheswm am hynny.

Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol ymchwilio ac y dylid ystyried paragraffau canlynol y Cod Ymddygiad (“y Cod”):

  • 4(a) – rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau gan roi sylw dyladwy i’r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo’u rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd.
  • 4(b) – rhaid i aelodau ddangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt.
  • 6(1)(a) – rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu ar eu hawdurdod.

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor Cymuned.  Cafodd y tystion, gan gynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld.  Cafodd yr Aelod hefyd ei chyfweld.

Canfu’r ymchwiliad mai Cymraeg yw iaith swyddogol y Cyngor Cymuned ac iaith ei weinyddiaeth fewnol.  Roedd y Cyngor Cymuned wedi penderfynu ychwanegu Cadeirydd yr is-grŵp at y rhestr o unigolion sydd wedi’u hawdurdodi i gysylltu â’r Cwmni Dylunio Gwefannau allanol. Cofnodwyd bod y penderfyniad wedi’i wneud yn unol â’i Bolisi Iaith Gymraeg.

Derbyniodd yr Aelod, pan ofynnwyd iddi gan yr Achwynydd pam na chaniatawyd iddo gysylltu â’r Cwmni Dylunio Gwefannau, ei bod wedi ymateb yn y pen draw, “because you’re not Welsh”.  Esboniodd yr Aelod wedi hynny mai’r hyn yr oedd hi’n bwriadu ei ddweud oedd “because you’re not Welsh speaking”.  O ystyried cyd-destun y digwyddiadau cyn y cyfarfod, derbyniwyd bod yr Aelod wedi bwriadu dweud, “because you’re not Welsh speaking” ac nad oedd bwriad hiliol y tu ôl i’w sylw. Ystyriwyd bod dewis o eiriau’r Aelod yn fwy tebygol o fod yn llithriad tafod trwsgl yn hytrach nag yn faleisus.  Daethpwyd i’r casgliad nad oedd tystiolaeth o fethiant i gydymffurfio â’r Cod.