Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llanllyfni (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) drwy fethu â datgan buddiant yng nghyfarfodydd y Cyngor pan drafodwyd sut i ddefnyddio darn o dir yn y dyfodol. Dywedwyd bod Canolfan Gymunedol (“yr Hyb”) y tu ôl i gynllun a oedd yn cynnig bod y tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhandiroedd. Roedd nifer o bobl leol gan gynnwys yr Achwynydd yn gwrthwynebu defnyddio’r cae fel hyn. Honnwyd bod gan yr Aelod fuddiant personol a rhagfarnus pan drafodwyd y tir yng nghyfarfodydd y Cyngor, gan ei fod yn Gyfarwyddwr yr Hyb a hefyd yn aelod o Bwyllgor Rheoli’r Hyb. Pan ddatganwyd buddiant honnwyd ei fod wedi methu â gadael y cyfarfodydd. Honnodd yr Achwynydd hefyd nad oedd penderfyniad yr Aelod i gefnogi’r cynllun rhandiroedd yn ddiduedd.
Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a oedd yr Aelod wedi torri’r Cod drwy fethu â datgan buddiant personol a rhagfarnus, ac a oedd wedi dwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, a chyfwelwyd yr Achwynydd a’r Aelod.
Canfu’r Ombwdsmon fod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu torri’r Cod, sef ei fod wedi methu â datgan buddiant personol a rhagfarnus yng nghyfarfodydd y Cyngor ac wedi gwneud cynrychiolaeth pan na ddylai fod wedi gwneud hynny. Teimlwyd nad oedd digon o ystyriaeth wedi’i rhoi i’r gofyniad i ystyried buddiant personol pan fo busnes yr awdurdod yn ymwneud â chymdeithas gofrestredig, o ystyried mai dyna oedd statws yr Hyb a bod yr Aelod yn dal swydd rheolaeth gyffredinol.
Ystyriwyd hefyd bod yr Aelod wedi methu ag ystyried y gallai safbwyntiau ynghylch budd y cyhoedd cysylltiedig fod yn wahanol iawn, a byddai’r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i’r Aelod ystyried hyn wrth benderfynu a allai ei fuddiant personol hefyd fod yn un sy’n rhagfarnu. Arweiniodd hyn at achosion lle methodd yr Aelod â datgan buddiant rhagfarnus na dilyn gofynion y Cod pan ddelir buddiant sy’n rhagfarnu. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon hefyd nad oedd yr arweiniad a roddwyd gan y Cyngor mor glir ag y gallai fod.
Ni chafodd yr Ombwdsmon ei berswadio bod y digwyddiadau hyn wedi cael, neu’n debygol o gael, effaith ar enw da’r Cyngor yn ei gyfanrwydd, gan nad oedd yn ymddangos bod dylanwad yr Aelod wedi cael effaith andwyol ar y canlyniad yn y pen draw.
Nid oedd yr Aelod wedi derbyn hyfforddiant ar y Cod cyn y digwyddiadau a arweiniodd at y gŵyn. Dylai’r Aelod fod wedi llofnodi ymrwymiad i gadw at y Cod cyn iddo ddechrau yn ei rôl. Ni ddylai hyn fod wedi cael ei gymryd yn ysgafn a dylai fod wedi rhoi gwybod iddo am y ffaith ei fod o dan ddyletswydd i ddeall y Cod er mwyn cadw ato.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu torri’r Cod, bod effaith gyfyngedig ei weithredoedd a’r camau lliniaru a ddarparwyd gan yr arweiniad aneglur a gafodd, yn golygu na fyddai er budd y cyhoedd i gymryd camau pellach.
Canfu’r Ombwdsmon o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 nad oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.