Dyddiad yr Adroddiad

18/07/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202305852

Canlyniad

Dim Angen Gweithredu

Honnodd yr Achwynydd, a oedd â rôl lywodraethu gyda Chyngor Sir Wrecsam (“y Cyngor”), fod 3 aelod o’r Cyngor (“y 3 Aelod”), a oedd i gyd yn brofiadol iawn ac yn arweinyddion eu Grwpiau Gwleidyddol eu hunain, wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”), drwy ddwyn achos cyfreithiol gyda’i gilydd yn enw’r Cyngor (a adwaenir fel “JR2”). Ceisiodd JR2 herio penderfyniad y Llys fod rhwymedigaeth ar y Cyngor i fabwysiadu ei Gynllun Datblygu Lleol (“CDLl”) drafft. Honnwyd hefyd fod un o’r 3 Aelod wedi defnyddio cyfrif e-bost y Cyngor i ddiben answyddogol. Roedd yr ymchwiliad wedi ystyried a oedd paragraffau 6(1)(a) (dwyn anfri), 7(a) (defnyddio neu geisio defnyddio eu safle’n amhriodol) neu 7(b) (camddefnyddio adnoddau’r Cyngor) o’r Cod wedi’u torri.

Canfuom nad oedd Cyfansoddiad y Cyngor yn rhoi pŵer penodol i’r 3 Aelod i ddwyn achos ar ran y Cyngor, a bod y pŵer hwn wedi’i ddirprwyo i’r Swyddog Monitro’n unig. Mae gweithredu y tu allan i drefniadau cyfansoddiadol y Cyngor yn ymddygiad y gellid yn rhesymol ei ystyried fel ymddygiad sy’n dwyn anfri ar swydd aelod neu’r Cyngor. Fodd bynnag, canfuom nad oedd cyhoeddi JR2 wedi arwain at unrhyw enillion personol arwyddocaol iddynt hwy neu hunain nac i eraill, na defnydd uniongyrchol o adnoddau’r Cyngor ac mai’r cymhelliad i ddwyn yr achos oedd cynnal a gwarchod penderfyniadau democrataidd y Cyngor. Canfuom hefyd fod un o’r 3 Aelod yn anfwriadol wedi defnyddio cyfrif e-bost y Cyngor i ddiben preifat neu wleidyddol.

Roeddem o’r farn ei bod yn briodol i’r Achwynydd gyfeirio’r mater at y swyddfa hon yn ei rôl lywodraethol, a bod Swyddogion Statudol y Cyngor yn gweithredu’n ddidwyll, ac yn unol â chyngor cyfreithiol allanol a gafwyd ar y pryd, i beidio cymryd camau i gadarnhau penderfyniadau’r Aelodau yn erbyn mabwysiadu’r CDLl drafft. O ganlyniad i benderfyniad mwy diweddar gan y Llys Apêl, a oedd wedi cadarnhau nad oedd rhwymedigaeth ar aelodau’r Cyngor i fabwysiadu’r CDLl, roedd yr eglurder ar y safbwynt cyfreithiol ac ar sail hynny, y ffactorau budd y cyhoedd perthnasol, wedi newid yn sylweddol yn ystod ein hymchwiliadau. Canfuom fod y 3 Aelod wedi ymdrechu i gadarnhau barn ddemocrataidd aelodau’r Cyngor a’u bod yn gweithredu ar gyngor cyfreithiol a gafwyd, yn achos cyhoeddi JR2. Ar ôl ystyried cyd-destun ffeithiol ymddygiad y 3 Aelod, a’r gyfres o ddigwyddiadau wedi hynny, daethom i’r casgliad nad oedd angen gweithredu ymhellach, er budd y cyhoedd. Roedd hon yn sefyllfa hynod anarferol a heb gynsail mewn llywodraeth leol. Yn yr un modd, roeddem o’r farn bod yr e-bost a anfonwyd gan un Aelod yn anfwriadol ac nad oedd yn ddigon difrifol i haeddu gweithredu ymhellach, er budd y cyhoedd.