Dyddiad yr Adroddiad

23/01/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202203822

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w gŵr, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) ar ôl iddo fynd i Ysbyty Cyffredinol Glangwili (“yr Ysbyty”) yn Awst 2021. Yn benodol, roedd hi’n holi a oedd y driniaeth a gafodd ef ar gyfer cerrig bustl wedi cyrraedd safon resymol. Roedd hi hefyd yn pryderu, yr ail dro iddo fynd i’r Ysbyty, y cafodd ei ryddhau pan ddylid bod wedi ei gadw i mewn i gael gofal. Yn olaf, roedd hi’n pryderu bod y gofal nyrsio a’r driniaeth a gafodd Mr A yr ail dro iddo fynd i’r Ysbyty yn amhriodol.

Canfu’r ymchwiliad fod yr ymchwiliadau a’r triniaethau a gynhaliwyd y tro cyntaf i Mr A fynd i’r Ysbyty, a’r modd y cafodd ei dderbyn i’r Ysbyty wedyn, yn amserol ac yn briodol, a bod y driniaeth a gafodd Mr A ar gyfer cerrig bustl wedi cyrraedd safon resymol. Yn unol â hynny, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o gŵyn Mrs A. Yr ail dro iddo fynd i’r Ysbyty, oherwydd symptomau Mr A, dylai fod wedi cael ei gadw yn yr ysbyty i roi gwrthfiotigau a rheoli ei anaf i’w aren. Nid yw’n bosibl gwybod yn hyderus a fyddai cadw Mr A yn yr ysbyty wedi atal ei farwolaeth, ond mae’r ansicrwydd hwn yn anghyfiawnder sylweddol i deulu Mr A. Cadarnhawyd y gŵyn hon. Yn olaf, nid oedd gofal nyrsio a thriniaeth Mr A yn cyrraedd y safon gan fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chofnodi’n llawn y driniaeth a roddwyd i Mr A yr ail dro iddo fynd i’r ysbyty, wedi methu â nodi sgôr poen ac, o ganlyniad, wedi methu ag asesu anghenion Mr A yn llawn. O ganlyniad, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A am eu methiannau a thalu £1,500 o iawndal i Mrs A. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa staff priodol o bwysigrwydd dilyn canllawiau NICE yn gywir, yn benodol pryd dylid cadw claf yn yr ysbyty, a phwysigrwydd dogfennu penderfyniadau am driniaeth yn y dyfodol yn gywir. Yn olaf, argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa staff nyrsio perthnasol o’r safonau disgwyliedig o ran asesu a dogfennu sgôr poen claf.