Rydym wedi cyhoeddi Adroddiad Arbennig heddiw ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fethu â gweithredu argymhellion allweddol a ddeilliodd o Adroddiad Budd y Cyhoedd yn dilyn ymchwiliad i’r ffordd y rheolwyd amser aros claf orthopedig am lawdriniaeth.
Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddom Adroddiad Budd y Cyhoedd ar ôl cadarnhau cwyn gan achwynydd am oedi cyn cael llawdriniaeth i gael pen-glin newydd gan y Bwrdd Iechyd, y dywedodd ei fod wedi bod yn aros amdani ers mis Awst 2019. Canfu’r ymchwiliad bod safle’r achwynydd ar y rhestr aros wedi cael ei gamreoli, ac nad oedd unrhyw adolygiad clinigol wedi’i gynnal i benderfynu a oedd y claf yn feddygol iach i gael llawdriniaeth. Yn ogystal, ni chafodd y claf wybod am benderfyniad y Bwrdd Iechyd i ailosod ei safle ar y rhestr aros, yn unol â Rheolau Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Amseroedd Aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth.
Derbyniodd y Bwrdd Iechyd y canfyddiadau a’r argymhellion yn llawn. Er iddynt gwblhau dau o’r argymhellion, methodd â chwblhau dau argymhelliad pellach a oedd fod i gael eu cwblhau erbyn mis Chwefror 2026, a wnaed er mwyn darparu sicrwydd bod rhestr aros y Bwrdd Iechyd yn cael ei rheoli’n briodol ac i sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant addas i gymhwyso Rheolau Llywodraeth Cymru yn gywir.
Gan ein bod wedi cyhoeddi 3 adroddiad budd y cyhoedd yn flaenorol ym mis Ionawr 2024 yn canfod problemau tebyg mewn perthynas â rheolaeth y Bwrdd Iechyd o’i restrau aros orthopedig, argymhellom y dylai’r Bwrdd drefnu archwiliad annibynnol o’i restr aros orthopedig i sefydlu a oedd unrhyw gleifion eraill wedi cael eu trin yn annheg a bod staff yn derbyn hyfforddiant priodol.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi methu â chydymffurfio gyda dau o’r argymhellion sy’n weddill. O ganlyniad, mae’r Ombwdsmon wedi cymryd y cam anarferol o ddefnyddio ei phwerau o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 i gyhoeddi Adroddiad Arbennig.
Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Rwy’n parhau i fod yn bryderus iawn y gallai cleifion eraill fod mewn perygl o hyd nad yw eu hamser aros yn cael ei reoli yn unol â’r canllawiau perthnasol.
“O ystyried fy ymchwiliadau blaenorol i restrau aros orthopedig y Bwrdd Iechyd, yr archwiliad a ddilynodd, a’r diffyg cynnydd wrth weithredu’r argymhellion sy’n weddill yn achos yr achwynydd, mae craffu annibynnol ar y rhestr aros a hyfforddiant priodol i staff yn parhau i fod yn hanfodol.”
Rydym bellach wedi gwneud argymhellion pellach sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd:
- o fewn 4 wythnos, i ddarparu astudiaeth achos ddiwygiedig a thystiolaeth o’i dosbarthiad, darparu cwmpas ac amserlen ar gyfer archwiliad annibynnol, a chyflwyno adroddiad i’w Fwrdd.
- o fewn 12 wythnos, i ddarparu tystiolaeth bod hyfforddiant wedi’i ddatblygu i fynd i’r afael â’r methiannau a nodwyd yn achos Mr W.
- o fewn 16 wythnos, i ddarparu canfyddiadau’r archwiliad annibynnol, tystiolaeth bod unrhyw gleifion sydd wedi’u heffeithio gan ddyddiadau aros anghywir wedi derbyn ymddiheuriad a bod eu cofnodion wedi’u cywiro, a thystiolaeth bod yr hyfforddiant newydd wedi cael ei weithredu.
Rydym hefyd wedi cadarnhau bydd yr Adroddiad Arbennig yn cael ei rannu â Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Rydym yn nodi bod y Bwrdd Iechyd, wrth wneud sylwadau ar ddrafft yr adroddiad hwn, wedi cytuno i weithredu’r argymhellion hyn.