Gair gan yr Ombwdsmon
Croeso i 10fed rhifyn ein cylchlythyr.
O ran maint ein gwaith achos, rydym newydd orffen y flwyddyn brysuraf erioed. Er y byddwn yn cyhoeddi manylion perfformiad ein gwasanaeth cwynion yn ein Hadroddiad Blynyddol yn ddiweddarach eleni, gallaf eisoes nodi nad ydym erioed wedi gweld cymaint o gwynion newydd, gyda nifer y cwynion a gaewyd hefyd ymhell y tu hwnt i’n perfformiad yn y blynyddoedd blaenorol.
Yn y cyfamser, wrth i ni baratoi ein Hadroddiad Blynyddol, rydym yn cynnwys yn y cylchlythyr hwn ddiweddariadau ar rai o’n hadroddiadau budd y cyhoedd diweddar a chanlyniadau ein hatgyfeiriadau Cod Ymddygiad. Mae ein gwaith ar ei liwt ei hun wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y misoedd diwethaf – byddwn yn trafod ein hymchwiliadau ar ei liwt ei hun i ddiffyg atgyweirio tai cymdeithasol, lleithder a llwydni, yn ogystal â’n hymchwiliadau cyfredol eraill a’n hadroddiad dilynol i asesiadau o anghenion gofalwyr. Mae hi’n gyfnod prysur i ni yn yr adran hon!
Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd, rydym hefyd yn nodi adeg arbennig yn hanes y swyddfa. Mae bellach yn 20 mlynedd ers i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru cyntaf ymgymryd â’r swydd. Mae’n gyfle gwych i asesu’r effaith rydym wedi’i chael ar bobl Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf ac i werthfawrogi sut mae ein pwerau wedi newid nid yn unig i sicrhau cyfiawnder i unigolion ond hefyd i gefnogi gwelliant systemig mewn gwasanaethau. Byddwn yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer nodi’r flwyddyn arbennig hon ymhellach ymlaen yn y cylchlythyr hwn.
Fodd bynnag, wrth i ni nodi 20fed pen-blwydd y swyddfa, mae ein golygon wedi’u gosod yn gadarn ar y dyfodol. Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi heddiw ein Cynllun Strategol newydd ar gyfer 2026-29. Mae’n dod ar adeg bwysig i’n swyddfa. Mae’r galw am ein gwasanaeth yn parhau i gynyddu, tra bod disgwyliadau o wasanaethau cyhoeddus, ac o’r Ombwdsmon, yn newid. Ar yr un pryd, mae llawer o bobl yn dal i wynebu rhwystrau wrth godi pryderon neu geisio cyfiawnder, a gall problemau hirhoedlog mewn gwasanaethau cyhoeddus olygu bod angen atebion mwy systemig. Mae ein Cynllun yn ymateb i’r heriau hyn gyda ffocws o’r newydd ar effaith, hygyrchedd a gwelliant. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gyfrannu at ein hymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun a helpu i’w lunio. Ni allwn aros i ddechrau ar y gwaith!
Mae’n anodd credu bod 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni ddod yn swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae llawer wedi newid dros gyfnod o 20 mlynedd, ac felly mae’n gyfle delfrydol i ni edrych yn ôl ar ein dechreuadau a gweld y cynnydd sydd wedi’i wneud ers hynny.
I nodi’r flwyddyn, byddwn yn postio cyfres o bostiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar ein gwasanaeth a’n hanes. Byddwn yn tynnu sylw at effeithiau, cerrig milltir a newidiadau pwysig yn ein deddfwriaeth sy’n golygu y gallwn wneud mwy i hyrwyddo gwelliant systemig a hwyluso mynediad at ein gwasanaeth.
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth yn ddigidol ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb i ymgysylltu â chynulleidfaoedd allweddol eraill.
Ar 17 Mehefin, byddwn yn mynychu gofod3, y digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru. Fel noddwr y digwyddiad, rydym yn falch o gefnogi gwaith WCVA i ddod â’r sector gwirfoddol ynghyd a chreu cyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd, rhwydweithio ac effaith wirioneddol.
Yn ogystal â bod yn bresennol yn yr ardal arddangos, byddwn yn cynnal gweithdy ar sut y gall partneriaethau agosach â sefydliadau cynghori ac eiriolaeth ledled Cymru ysgogi newid gwirioneddol mewn gwasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn trafod sut y gall ein hadnoddau, ein canllawiau a’n gwasanaethau helpu sefydliadau i gynorthwyo’r cyhoedd, a sut y gall mewnwelediadau’r sector lywio ein hymchwiliadau er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf i gymunedau sy’n agored i niwed. Gallwch gofrestru am ein gweithdy yma: Building voluntary sector partnerships to improve public services – gofod3.
Rydym hefyd yn paratoi ar gyfer ymgysylltu ag Aelodau newydd y Senedd a’u timau. Byddwn yn mynychu Marchnad y Senedd ar 2 Mehefin, yn ogystal â chynnal digwyddiad briffio brecwast gyda’r Aelodau ar 6 Hydref. Byddwn yn dychwelyd i Farchnad y Senedd ar 18 Tachwedd.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn datblygu ein Cynllun Strategol nesaf, a fydd yn gosod cyfeiriad ein gwaith o 2026 i 2029. Yn gynharach eleni, gwnaethom wahodd barn ar ein cynigion drafft, a hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu adborth. Rydym yn ddiolchgar am yr holl adborth a dderbyniwyd. Gwnaeth ein helpu i fireinio a chryfhau’r Cynllun, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r materion sydd bwysicaf i bobl ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Wrth wraidd y cynllun, mae’n nodi sut y byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth teg, diduedd ac sy’n canolbwyntio ar bobl, tra hefyd yn defnyddio ein pwerau’n fwy rhagweithiol i gefnogi dysgu a gwelliant ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n rhoi mwy o bwyslais ar ddeall a dangos y gwahaniaeth y mae ein gwaith yn ei wneud – nid yn unig i achwynwyr unigol, ond hefyd i safonau gwasanaeth cyhoeddus ehangach ac atebolrwydd democrataidd yng Nghymru.
Mae’r Cynllun hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar gynnal sefydliad gwydn, sy’n cael ei lywodraethu’n dda, ac sy’n gallu addasu i ofynion sy’n newid wrth barhau i fod yn annibynnol, yn ddiduedd ac yn atebol.
Rydym yn ymrwymo i bedwar Nod Strategol:
Nod Strategol 1: Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol i bobl Cymru
Rydym yn darparu gwasanaeth empathig, cymesur ac effeithlon sy’n gwneud i bobl deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu deall. Mae ein hargymhellion yn rhesymol, yn gyson ac yn effeithiol.
Nod Strategol 2: Dylanwadu ar newid cadarnhaol mewn gwasanaethau cyhoeddus a safonau uchel o ymddygiad mewn llywodraeth leol
Rydym yn gwella gwasanaethau cyhoeddus yn systemig drwy ein gwaith Safonau Cwynion, ein hymchwiliadau ar ei liwt ei hun a’n hadroddiadau thematig. Rydym yn nodi arfer da a gwersi a ddysgwyd, gan gyfleu’r rhain yn effeithiol i gyfrannu at wella gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn cefnogi safonau uchel o ymddygiad ymhlith cynghorwyr.
Nod Strategol 3: Cryfhau mynediad ac effaith i’r sawl sydd angen ein gwasanaeth fwyaf
Rydym yn parhau i wella mynediad at ein gwasanaeth. Rydym yn hyrwyddo ein gwasanaeth i’r rhai a allai fod ei angen fwyaf, gan gynnwys drwy sefydliadau a rhanddeiliaid allweddol sy’n cynghori, cefnogi a chynrychioli achwynwyr. Rydym yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar faterion sy’n effeithio ar y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed.
Nod Strategol 4: Sicrhau ein bod yn sefydliad gwydn, ystwyth ac atebol
Rydym yn cynnal ac yn gwella staff, cyllid ac adnoddau TG effeithlon ac effeithiol, ac yn sicrhau llywodraethu da, atebolrwydd a thryloywder.
Darllenwch ein Cynllun yma.
Darllenwch fersiwn Hawdd ei Ddeall o’n Cynllun yma.
Rhwng Ionawr a Mawrth, rydym wedi cyhoeddi 2 adroddiad er budd y cyhoedd. Gweler crynodebau o’r rhain isod:
Cyfeirnod achos 202403251 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cwynodd Mrs C ynghylch a oedd safon y gofal a ddarparwyd i’w mam, Mrs B, ar gyfer rheoli ei chataract (pan fydd lens y llygad yn datblygu darn cymylog) yn ei llygad dde, yn glinigol priodol ac yn amserol.
Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb yn briodol i gyngor a ofynnodd amdano gan Ail Fwrdd Iechyd ynglŷn â gofal Mrs B.
Yn ystod y pandemig COVID-19, ni ddangosodd y Bwrdd Iechyd ei fod wedi ystyried canllawiau iechyd cyhoeddus cyfoes wrth asesu’r risgiau i Mrs B.
Pan ailddechreuodd gwasanaethau arferol, roedd yr adolygiad clinigol dilynol o Mrs B yn annigonol. Ni chynhaliwyd profion perthnasol, roedd llythyr a anfonwyd at ei meddyg teulu ynglŷn â meddyginiaeth yn brin o fanylion, a chollwyd cyfle i’w hatgyfeirio am driniaeth bellach yn gynharach.
Yn ystod y cyfnod dan ymchwiliad, canslwyd nifer o apwyntiadau clinig Mrs B, a gyfrannodd at oedi wrth wneud diagnosis a chael triniaeth.
Mae Mrs B, sy’n ddall yn ei llygad chwith, bellach hefyd ag amhariad ar y golwg yn ei llygad dde. Mae Mrs C wedi disgrifio’r effaith ddinistriol y mae hyn wedi’i chael ar Mrs B a’i theulu ehangach.
Gwnaethom argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd ddarparu ymddiheuriad ffurfiol i Mrs B a Mrs C, yn ogystal â thaliad o £4,500 i adlewyrchu’r methiannau yn y gofal, ynghyd â £300 am yr amser a’r drafferth a fu’n gysylltiedig â mynd ar drywydd y gŵyn. Gwnaethom hefyd argymell bod y Bwrdd Iechyd yn atgoffa clinigwyr am bwysigrwydd adolygu gohebiaeth glinigol flaenorol, yn enwedig lle nad yw’r claf yn cael y gofal a gynlluniwyd, ac o wneud atgyfeiriadau prydlon ar gyfer gofal arbenigol.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
Cyfeirnod achos 202404388 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd rhwng Medi 2023 a Gorffennaf 2024 yn dilyn ei ddiagnosis o ganser y prostad. Yn benodol, gwnaethom ystyried pa mor sylweddol oedd yr oedi cyn i Mr C gael sgan PSMA PET – uwch brawf delweddu sy’n defnyddio deunydd olrhain ymbelydrol i ganfod ac amlygu celloedd canser y prostad. Gwnaethom hefyd ystyried yr oedi cyn i Mr C gael therapi hormonaidd, a’r effaith a gafodd hyn ar ledaeniad y canser.
Canfuom, er bod y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr C ar y cyfan wedi dilyn Llwybr Cenedlaethol GIG Cymru ar gyfer Canser y Prostad, bu oedi sylweddol ar gamau allweddol. O ganlyniad, arhosodd Mr C fwy na thair gwaith yn hwy nag y dylai fod
wedi gwneud cyn i’w driniaeth ddechrau.
Archwiliodd yr ymchwiliad hefyd a ddylai Mr C fod wedi derbyn therapi hormonaidd yn gynharach. Canfu ei bod yn briodol yn glinigol i beidio â dechrau therapi hormonaidd cyn canlyniad y sgan PSMA PET, gan y gallai hyn fod wedi effeithio ar y dehongliad o’r sgan. Fodd bynnag, oherwydd yr oedi sylweddol gyda’r sgan ei hun, cafodd therapi hormonaidd Mr C ei ohirio’n ddiangen hefyd. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mr C, gan ei adael yn aros mwy na 180 diwrnod o’r pwynt o amheuaeth hyd at driniaeth derfynol.
Gwnaethom argymell bod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mr C am yr oedi a’r anghyfiawnder a achoswyd, yn rhannu’r adroddiad gyda’r clinigwyr a oedd yn ymwneud â gofal Mr C er mwyn i’r canfyddiadau gael eu hystyried a’u trafod, ac yn rhoi adborth i ni ar unrhyw welliannau a nodwyd.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
Fel y gwnawn ym mhob cwyn gwasanaeth cyhoeddus rydym yn ymyrryd ynddi, rydym wedi bod yn monitro’n weithredol sut mae sefydliadau wedi bod yn cydymffurfio â’r argymhellion o’n hymchwiliadau ar ei liwt ei hun.
Ym mis Hydref 2024, gwnaethom gwblhau pedwar ymchwiliad ar wahân a oedd yn edrych ar asesiadau o anghenion gofalwyr yng Nghymru.
Gwnaethom ystyried a oedd 4 awdurdod lleol – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Castell-nedd Port Talbot – yn cynnal asesiadau o ofalwyr yn unol â’u rhwymedigaethau statudol.
Er i ni nodi rhai meysydd o arfer da, gwnaethom hefyd nifer o argymhellion gan gynnwys:
- gwella arferion cofnodi
- gwella sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda gofalwyr
- cynnig hyfforddiant gloywi i staff ar hawliau gofalwyr; a
- cydweithio’n well â’r sector gofal iechyd.
Rydym wedi monitro cydymffurfiaeth yr awdurdodau a ymchwiliwyd iddynt â’r argymhellion ac ym mis Mawrth 2026 cyhoeddom adroddiad dilynol.
Canfuom fod pob un o’r 4 awdurdod a ymchwiliwyd iddynt wedi cymryd camau cadarnhaol ers yr ymchwiliad, er mai dim ond Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Castell-nedd Port Talbot oedd wedi gweithredu’n llawn yr holl argymhellion a wnaed. Gwnaethom argymhellion pellach i Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir y Fflint ac anogom y ddau awdurdod hyn i barhau i wneud y newidiadau angenrheidiol i gydymffurfio â’r argymhellion sy’n weddill.
Gwnaethom hefyd groesawu sylwadau a data gan awdurdodau eraill ledled Cymru, mewn ymateb i’n hymchwiliad, gan ddangos effaith a dysgu ehangach. Fodd bynnag, mae’n parhau bod angen i bob awdurdod lleol yng Nghymru barhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod gofalwyr yn cael gwybod am eu hawliau a’u bod yn gallu cael mynediad at wybodaeth, cyngor neu gymorth priodol i’w galluogi i barhau yn eu rôl ofalu, os dymunant wneud hynny.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
Ym mis Chwefror, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddom ein penderfyniad i fwrw ymlaen â chynigion ar gyfer dau ymchwiliad ar ei liwt ei hun i sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i adroddiadau o ddiffyg atgyweirio, gyda ffocws penodol ar leithder a llwydni sy’n effeithio ar denantiaid sy’n agored i niwed.
Yn ein gwaith achos ein hunain ac ymchwiliadau diweddar, rydym wedi nodi oedi ac ymatebion anghyson i adroddiadau am ddiffyg atgyweirio, lleithder a llwydni, yn aml yn cynnwys tenantiaid sy’n agored i niwed. Yn 2024–25, roedd ychydig dros 19% o’r cwynion newydd a gafwyd yn ymwneud â thai cymdeithasol, gyda llawer ohonynt yn ymwneud â diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni. Rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad thematig, Byw mewn Cyflyrau Difrifol, ac wedi cyhoeddi adroddiadau ar ymchwiliadau er budd y cyhoedd ddiwedd 2025 yn amlygu pryderon tebyg.
Gan fod y materion hyn wedi dod yn fwy cyffredin yn ein gwaith achos, gwnaethom gyhoeddi rhifyn arbennig o’n cylchlythyr ym mis Chwefror, lle tynnom sylw at y cwynion tai yr ydym wedi ymyrryd ynddynt a’u themâu sy’n codi dro ar ôl tro er mwyn darparu cyfleoedd clir ar gyfer gwelliannau ar draws y sector tai.
Dangosodd tystiolaeth o’r ymgynghoriad y gallai tenantiaid sy’n agored i niwed gael eu heffeithio’n anghymesur, gan gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, teuluoedd â phlant, y rhai ar incwm isel a phobl o gefndiroedd ethnig amrywiol. Disgrifiodd yr ymatebwyr yr effaith ddifrifol y gall diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni ei chael ar iechyd, llesiant ac annibyniaeth, a chytunasant y byddai bwrw ymlaen â’r ymchwiliadau hyn er budd y cyhoedd.
Mae dau ymchwiliad ar ei liwt ei hun i’r materion hyn yn mynd yn eu blaenau ar hyn o bryd.
Yn ogystal â’r rhain, rydym hefyd yn cynnal 3 ymchwiliad ar ei liwt ei hun i 2 Fwrdd Iechyd ar hyn o bryd.
Mae pedwar gwrandawiad wedi’u cynnal ers mis Ionawr. Rydym yn cynnwys y crynodebau isod:
Cyfeirnodau achosion 202303825, 202306824, 202307937
Gwnaethom ymchwilio i gwynion am Aelod o Gyngor Tref Neyland. Yr honiadau oedd bod yr Aelod wedi siarad â Chlerc y Cyngor a chyd-gynghorwyr dro ar ôl tro mewn ffordd amharchus ac wedi eu trin felly, a bod eu hymddygiad yn gyfystyr â bwlio ac aflonyddu. Honnwyd hefyd fod eu hymddygiad wedi niweidio enw da’r Cyngor a’u bod wedi methu â chydweithredu’n briodol â’n hymchwiliad.
Canfu ein hymchwiliad dystiolaeth yn awgrymu nad oedd yr Aelod wedi trin y Clerc na chynghorwyr eraill â pharch, ei fod wedi eu bwlio neu eu haflonyddu ar sawl achlysur, ei fod wedi dwyn anfri ar ei rôl a’r Cyngor trwy ei weithredoedd, ac wedi methu â chydymffurfio â cheisiadau a wnaed yn ystod yr ymchwiliad.
Cyfeiriwyd yr achos at Banel Dyfarnu Cymru. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, canfu Panel Dyfarnu Cymru fod yr Aelod wedi:
- methu ar sawl achlysur â thrin y Clerc a’i gyd-gynghorwyr â pharch ac ystyriaeth;
- ymddwyn mewn ffordd a oedd yn gyfystyr â bwlio ac aflonyddu, gan gynnwys digwyddiadau a gohebiaeth benodol;
- ymddwyn mewn ffordd a oedd yn dwyn anfri ar eu swydd a’r Cyngor; a
- methu â chydymffurfio â cheisiadau a wnaed yn ystod yr ymchwiliad.
Penderfynodd Panel Dyfarnu Cymru mai’r sancsiwn priodol oedd anghymhwyso’r Aelod rhag gweithredu fel aelod o unrhyw awdurdod perthnasol am bedair blynedd.
Cyfeirnodau achosion 202302731, 202304678, 202306825, 202307936
Gwnaethom ymchwilio i gwynion am Gyn Aelod o Gyngor Tref Neyland. Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi methu â thrin y Clerc, y Cyn Glerc a’i gyd-gynghorwyr â pharch, eu bod wedi’u bwlio a’u haflonyddu, ac wedi gwneud datganiadau maleisus a blinderus am gynghorwyr a’r Cyn Glerc yn gyhoeddus.
Canfu ein hymchwiliad dystiolaeth yn awgrymu bod ymddygiad y Cyn Aelod yn is na’r safonau a ddisgwylir gan aelodau etholedig, gan gynnwys bwlio ac aflonyddu, gwneud cwynion maleisus, ac ymddwyn mewn ffordd y gellid ei hystyried yn rhesymol fel un a oedd yn niweidio enw da’r Cyngor.
Cyfeiriwyd y mater at Banel Dyfarnu Cymru. Canfu Panel Dyfarnu Cymru fod y Cyn Aelod, ar draws nifer o ddigwyddiadau ar wahân, wedi:
- methu â thrin eraill â pharch ac ystyriaeth;
- bwlio ac aflonyddu ar eraill;
- gwneud cwynion maleisus, disylwedd neu flinderus; a
- ymddwyn mewn ffordd a oedd yn dwyn anfri ar eu swydd a’r Cyngor.
Penderfynodd Panel Dyfarnu Cymru mai’r sancsiwn priodol oedd anghymhwyso’r Cyn Aelod rhag gweithredu fel aelod o unrhyw awdurdod perthnasol am dair blynedd.
Cyfeirnod achos 202407222
Derbyniasom gŵyn bod Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod yr Aelod wedi anfon e-bost at weithiwr y Cyngor a oedd yn amharchus ac yn bwlio o ran ei naws. Honnwyd hefyd fod yr Aelod wedi gwrthod ymgysylltu â staff y Cyngor i drafod pryderon ynghylch eu hymddygiad. Yn dilyn hyn, honnwyd bod yr Aelod wedi trin y gweithiwr yn annheg drwy wneud cwyn am gamymddwyn difrifol yn ei erbyn, fel dial am godi pryderon gyda’r Ombwdsmon.
Canfu ein hymchwiliad dystiolaeth yn awgrymu bod y patrwm ymddygiad hwn yn cynnwys ymddygiad amharchus, bwlio ac aflonyddu, a gwneud cwyn ddialgar.
Cyfeiriwyd yr achos at Bwyllgor Safonau’r Cyngor, a ganfu fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Penderfynodd y Pwyllgor mai’r sancsiwn priodol oedd cerydd.
Cyfeirnod achos 202404421
Derbyniom gŵyn bod Aelod o Gyngor Dinas Casnewydd wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod yr Aelod, yn ystod galwad ffôn â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid y Cyngor, wedi gwneud sylwadau gwahaniaethol i weithiwr y Cyngor am y ffordd yr oedd yr alwad yn cael ei thrin.
Canfu ein hymchwiliad fod ymddygiad yr Aelod yn is na’r safonau a ddisgwylir gan aelodau etholedig, gan gynnwys methiant i drin y gweithiwr ag urddas a pharch. Ar ôl pwyso a mesur, daethom i’r casgliad nad oedd yr ymddygiad yn awgrymu bod yr Aelod wedi dwyn anfri ar ei swydd.
Cyfeiriwyd yr achos at Bwyllgor Safonau Cyngor Dinas Casnewydd. Ar ôl ystyried y mater, canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi:
- methu â thrin gweithiwr y Cyngor â pharch ac ystyriaeth;
- gwneud sylwadau amhriodol a gwahaniaethol; a
- ymddwyn mewn ffordd a oedd yn dwyn anfri ar eu swydd.
Penderfynodd y Pwyllgor mai’r sancsiwn priodol oedd cerydd.
Mae’r penderfyniad yn amodol ar apêl.
Mae ein tîm Awdurdod Safonau Cwynion wedi bod yn parhau â’u gwaith gyda chymdeithasau tai i’w dwyn o dan yr Awdurdod Safonau Cwynion yn ffurfiol. Bellach mae gennym 23 o Gymdeithasau Tai yn gweithredu o dan y Safonau, ac mae’r 9 cymdeithas sy’n weddill bellach o fewn eu cyfnod sbarduno 6 mis. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt adolygu eu polisïau, sicrhau bod eu proses o gasglu data yn briodol a chael hyfforddiant perthnasol.
Rydym yn ddiolch iawn i bob sefydliad sydd wedi gweithio gyda ni dros y 12 mis diwethaf i gyflawni hyn ac edrychwn ymlaen at barhau gyda’r rheini i gyd o dan y Safonau, sydd hefyd yn cynnwys pob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaethau, er mwyn darparu gwasanaethau cwynion cyson i’r cyhoedd ledled Cymru.
Rydym yn parhau i gynllunio cam nesaf o gyflwyno Safonau Cwynion i sectorau gwasanaeth cyhoeddus allweddol eraill yn ystod 2026 a thu hwnt.