Rydym yn cyhoeddi heddiw ‘A ydym yn gofalu am ein gofalwyr? Ailymweld’, sef dilyniant i’n hymchwiliad ar ei Liwt ei Hun yn 2024 i sut mae awdurdodau lleol Cymru yn nodi, yn asesu ac yn cefnogi gofalwyr di-dâl.
Archwiliodd yr ymchwiliad gwreiddiol a oedd 4 awdurdod lleol – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Castell-nedd Port Talbot – yn cyflawni eu dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Er bod enghreifftiau o arfer da wedi’u nodi, canfuwyd mai dim ond cyfran fechan o ofalwyr a gafodd asesiadau o’u hanghenion, ac nad oedd llawer yn ymwybodol o’u hawliau na’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Mae’r adroddiad dilynol yn adolygu’r cynnydd a wnaed gan y 4 awdurdod yr ymchwiliwyd iddynt ac yn crynhoi ymatebion a data gan yr 18 awdurdod lleol sy’n weddill yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at ddatblygiad ac yn nodi meysydd lle mae angen gwelliant pellach o hyd.
Mae’r adroddiad yn canfod bod pob un o’r 4 awdurdod yr ymchwiliwyd iddynt wedi cymryd camau cadarnhaol mewn ymateb i’r argymhellion. Mae gwelliannau’n cynnwys datblygu neu ddiwygio taflenni ffeithiau sy’n egluro’r broses asesu anghenion gofalwyr, yr hyn y gall gofalwyr ei ddisgwyl, a rôl gwasanaethau a gomisiynir. Mae’r adnoddau hyn bellach ar gael yn y Gymraeg, ieithoedd eraill a fformatau Hawdd eu Deall.
Mae awdurdodau hefyd wedi diweddaru ffurflenni asesu ac arferion cofnodi i gofnodi anghenion gofalwyr sy’n oedolion a gofalwyr ifanc yn well, gan wella cysondeb ac ansawdd. Lle mae newidiadau’n parhau i fod heb eu gwneud, mae gwelliannau’n cael eu hintegreiddio i drefniadau rhanbarthol a systemau rheoli achosion newydd.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at welliannau mewn cyfathrebiadau ar ôl asesu a chymorth ymarferol i ofalwyr, mwy o hyfforddiant a gweithgaredd codi ymwybyddiaeth i staff, ochr yn ochr â threfniadau archwilio a sicrhau ansawdd cryfach. Mae cynnydd wedi’i wneud o ran gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gweithgaredd mewngymorth yn yr ysbyty a mentrau cymorth rhyddhau, ac wrth wella’r broses o gofnodi data cydraddoldeb trwy systemau TG newydd.
Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae bwlch yn parhau o hyd rhwng nifer y bobl sy’n ystyried eu hunain yn ofalwyr a’r rhai sy’n derbyn asesiadau ffurfiol o anghenion. Mae data o’r 18 awdurdod nad ymchwiliwyd iddynt yn dangos mai, ar gyfartaledd, dim ond 2.73% o ofalwyr a gafodd asesiad o anghenion yn 2023/24, a dim ond 1.32% a gafodd asesiad a arweiniodd at gynllun cymorth.
Rydym yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud, ond yn nodi nad yw pob argymhelliad wedi’i weithredu’n llawn o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt. Felly, cyhoeddir yr adroddiad dilynol fel Adroddiad Arbennig o dan adran 28 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, gyda rhagor o argymhellion wedi’u gwneud i Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir y Fflint, gan gynnwys gwell goruchwyliaeth trwy eu Pwyllgorau Archwilio a Risg.
Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Rwy’n croesawu’r camau cadarnhaol a gymerwyd ers fy ymchwiliad gwreiddiol, sydd wedi helpu i wella sut mae gofalwyr yn cael eu hadnabod, eu hysbysu am eu hawliau a’u cefnogi drwy’r broses asesu.
Fodd bynnag, mae'n siomedig nad yw rhai argymhellion wedi'u rhoi ar waith yn llawn eto. Rhaid i ofalwyr fod yn glir am ganlyniadau eu hasesiadau a sut i geisio cymorth pellach. Rwy'n annog pob awdurdod lleol i fwrw ymlaen â'r hyn a ddysgwyd o'r gwaith hwn a pharhau i wella sut mae gofalwyr di-dâl yn cael eu hadnabod a'u cefnogi ledled Cymru.”