Rydym yn cyhoeddi heddiw’r penderfyniad i fwrw ymlaen â chynigion ar gyfer dau ymchwiliad ar ei liwt ei hun i sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i adroddiadau o ddiffyg atgyweirio, gyda ffocws penodol ar leithder a llwydni sy’n effeithio ar denantiaid sy’n agored i niwed.

Mae’r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd ym mis Tachwedd 2025. Derbyniwyd ymatebion gan denantiaid, Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau cyngor ac eiriolaeth y trydydd sector. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daethom i’r casgliad bod y meini prawf statudol ar gyfer defnyddio pwerau ar ei liwt ei hun wedi’u bodloni, ac felly, cynigir dau ymchwiliad o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

Mae ein gwaith achos ac ymchwiliadau diweddar wedi nodi oedi ac ymatebion anghyson i adroddiadau am ddiffyg atgyweirio, lleithder a llwydni, yn aml yn cynnwys tenantiaid sy’n agored i niwed. Yn 2024–25, roedd ychydig dros 19% o’r cwynion newydd a gafwyd yn ymwneud â thai cymdeithasol, gyda llawer ohonynt yn ymwneud â diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni. Rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad thematig, Byw mewn Cyflyrau Difrifol, ac wedi cyhoeddi adroddiadau ar ymchwiliadau er budd y cyhoedd ddiwedd 2025 yn amlygu pryderon tebyg.

Mae tystiolaeth o’r ymgynghoriad yn dangos y gallai tenantiaid sy’n agored i niwed gael eu heffeithio’n anghymesur, gan gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, teuluoedd â phlant, y rhai ar incwm isel a phobl o gefndiroedd ethnig amrywiol. Disgrifiodd yr ymatebwyr yr effaith ddifrifol y gall diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni ei chael ar iechyd, llesiant ac annibyniaeth, a chytunasant y byddai bwrw ymlaen â’r ymchwiliadau hyn er budd y cyhoedd.

“Mae ein gwaith achos, ein hymchwiliadau a’r ymatebion i’n hymgynghoriad yn dangos y gall diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni sydd heb eu datrys achosi niwed difrifol, yn enwedig i denantiaid sy’n agored i niwed. Er bod y sector yn newid, gan gynnwys y Safon Ansawdd Tai Cymru diweddaredig sy’n dod i rym ym mis Ebrill 2026, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod problemau'n parhau. Bydd yr ymchwiliadau arfaethedig hyn yn nodi gwersi ac yn cefnogi gwelliant, tryloywder ac atebolrwydd.”

Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Byddwn yn ysgrifennu at y ddwy Gymdeithas Tai a nodwyd, yn amlinellu’r ymchwiliadau arfaethedig ac yn gwahodd eu sylwadau yn unol â gofynion statudol. Byddwn yn parhau i adolygu a oes angen ymchwiliadau ar ei liwt ei hun pellach.