Mae’r Cynllun drafft wedi’i ddatblygu yn dilyn trafodaethau mewnol ac ystyriaeth fanwl o’r pwysau, y cyfleoedd a’r heriau allweddol sy’n effeithio ar ein gwasanaeth a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
Rydym bellach yn gwahodd safbwyntiau ehangach ar y Cynllun arfaethedig, gan gynnwys gan ddarparwyr gwasanaethau, cymunedau, sefydliadau trydydd sector, cynrychiolwyr etholedig ac aelodau’r cyhoedd.
Mae’r Cynllun arfaethedig yn amlinellu rhaglen waith uchelgeisiol ond realistig sydd wedi’i hadeiladu o amgylch pedwar Nod Strategol, gan ganolbwyntio ar:
- cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol i bobl yng Nghymru.
- dylanwadu ar welliant systematig ledled gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi safonau uchel o ymddygiad mewn llywodraeth leol.
- cryfhau mynediad ac effaith i’r sawl sydd angen gwasanaeth yr Ombwdsmon fwyaf.
- sicrhau bod OGCC yn sefydliad gwydn, ystwyth ac atebol.
Er bod cryfhau a dangos tystiolaeth o effaith yn edefyn pwysig sy’n rhedeg drwy’r Cynllun drafft, mae’n eistedd ochr yn ochr â blaenoriaethau allweddol eraill, gan gynnwys hygyrchedd, tegwch, gwell ansawdd gwasanaeth, a defnydd effeithiol o ddata, offer digidol ac arloesedd.
Wrth lansio’r ymgynghoriad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Wrth i ni baratoi i nodi ugain mlynedd o wasanaeth yr Ombwdsmon yng Nghymru, dyma’r adeg iawn i fyfyrio ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu a’r camau y mae’n rhaid eu cymryd nesaf.
“Mae ein Cynllun Strategol drafft yn dwyn ynghyd y mewnwelediadau a ddaw o’n sefydliad a’r heriau y gwyddom fod pobl yn eu hwynebu wrth lywio gwasanaethau cyhoeddus.”
“Rydym nawr am glywed gan bobl ledled Cymru. Bydd eich barn yn ein helpu i fireinio ein blaenoriaethau ac i sicrhau bod y Cynllun yn adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf i’r sawl sy’n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus ac sy’n ymgysylltu â democratiaeth leol yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gallwn barhau i gryfhau gwasanaeth sy’n parhau i fod yn deg, yn annibynnol ac yn agored i bawb – ac un sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon lle mae ei angen fwyaf.”
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 31 Mawrth 2026.