Lansiwn heddiw ymgynghoriad ar ymchwiliad ar ei liwt ei hun arfaethedig i ganfod a yw Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (a elwir hefyd yn Gymdeithasau Tai) ac awdurdodau lleol yn ymateb yn briodol i adroddiadau a phryderon sy’n ymwneud â diffyg atgyweirio, gyda ffocws ar leithder a llwydni, gan ystyried anghenion tenantiaid agored i niwed.
Gallwn lansio ymchwiliad i fater hyd yn oed heb dderbyn cwyn. Gelwir hyn yn ymchwiliadau ‘ar ei liwt ei hun’. Gallwn wneud hyn os ydym yn penderfynu y gallai rhywbeth fod wedi mynd o’i le gyda gwasanaethau cyhoeddus; gallai’r mater gael effaith negyddol ar grŵp eang o ddinasyddion (yn enwedig os ydynt yn agored i niwed neu dan anfantais); a byddai ymchwilio er budd y cyhoedd.
Os oes angen, byddai unrhyw ymchwiliad neu ymchwiliadau yn nodi yr hyn allai darparwyr tai cymdeithasol ei wneud yn well i sicrhau eu bod yn ymateb i bryderon tenantiaid agored i niwed (gan gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, pobl ifanc a phlant, pobl ar incwm isel, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol) yn briodol ac mewn modd amserol.
Byddai’r ymchwiliad hefyd yn rhannu unrhyw arfer da a nodwyd i sbarduno gwelliant ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Mae tai gwael yn cael effaith ddifrifol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl, ac eto, mae gormod o denantiaid yn parhau i fyw mewn diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni, gan achosi pryder dyddiol sy’n effeithio ar eu lles. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd mewn cwynion am dai cymdeithasol, gydag ychydig dros 19% o gwynion newydd yn 2024-2025 yn ymwneud â’r materion hyn.”
“Mewn ymateb, cyhoeddom ein hadroddiad thematig, Byw mewn Cyflyrau Difrifol, ym mis Tachwedd y llynedd. Tynnodd yr adroddiad sylw at themâu allweddol a gwersi o’n gwaith achos, gan gynnwys enghreifftiau lle arhosodd tenantiaid sy’n agored i niwed yn hirach nag oedd angen am waith atgyweirio neu gynnal a chadw. Pwysleisiodd hefyd fod effaith amodau tai gwael hyd yn oed yn fwy i drigolion oedrannus neu anabl.”
“Yn fwy diweddar, rydym wedi gweld cwynion pellach o’r natur hon. Yn ystod 2024-2025, gwnaethom ymyrryd yn gynnar mewn 79 o achosion yn ymwneud ag diffyg atgyweirio neu leithder a llwydni. Yn ystod y ddau fis diwethaf, rydym wedi cyhoeddi pedwar adroddiad Diddordeb Cyhoeddus yn erbyn Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir y Fflint, a Trivallis ynglŷn â’r materion hyn.”
“Mae hyn yn ein harwain i amau y gallai problemau tebyg effeithio ar denantiaid ar draws darparwyr tai cymdeithasol eraill, ac yn atgyfnerthu’r angen i weithredu i sicrhau bod pryderon tenantiaid yn cael eu datrys yn brydlon ac yn effeithiol.”
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 8 Rhagfyr am hanner dydd.