Ar gyfer Wythnos Gofalwyr (9 – 15 Mehefin), rydym wedi recordio podlediad gyda Chymdeithas yr Ombwdsmon i drafod ein hymchwiliad ar ei liwt ei hunan diweddaraf, ‘A ydym yn gofalu am ein gofalwyr?’.
Mae ymchwiliad ar ei liwt ei hunan yn golygu y gallwn ymchwilio i faterion, lle mae gennym amheuaeth resymol o gamweinyddu eang neu fethiant gwasanaeth gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, hyd yn oed os nad yw wedi derbyn cwyn yn ei gylch gan unigolyn.
Mae’r ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar y modd y gweinyddir asesiadau anghenion gofalwyr yng Nghymru, ac ar sut y ceir cymorth anghyson gan awdurdodau sydd wedi’u hymchwilio.
Yn y podlediad, rydym yn trafod:
- Pam y gwnaethom ganolbwyntio ar ofalwyr di-dâl
- Sut mae methiannau yn y system yn effeithio ar ofalwyr
- Yr argymhellion a wnaed i gyrff cyhoeddus i wella eu prosesau
- Pam mae angen i ni gefnogi gofalwyr di-dâl yn well
Gallwch wrando ar y podlediad yma.