Adroddiad Diddordeb Cyhoeddus newydd a gyhoeddir heddiw yn canfod y byddai claf canser yn debygol o fod wedi goroesi’n hirach, pe bai atgyfeiriad brys cynharach wedi’i wneud gan bractis meddyg teulu’r claf.

Y Gŵyn

Lansiom ymchwiliad ar ôl i Ms D gwyno am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w nain, Mrs F.

Dywedodd Ms D bod practis meddyg teulu Mrs F yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cam-ddiagnosio symptomau canser pledren ei nain dro ar ôl tro, a’u cam-drin fel heintiau’r llwybr wrinol. Dywedodd hefyd fod yr amser a gymerwyd i gyfeirio ein nain, a’r cyfleoedd a gollwyd i wneud diagnosis cywir, wedi arwain at farwolaeth ei nain.

 

Ein Hymchwiliad

Ystyriodd ein hymchwiliad a oedd y Practis wedi methu â chymryd camau priodol a fyddai wedi arwain at ddiagnosis cynharach o ganser pledren Mrs F.

Canfu’r ymchwiliad y dylai symptomau Mrs F fod wedi arwain at atgyfeiriad brys o amheuaeth o ganser ym mis Gorffennaf 2021.

Fodd bynnag, er gwaethaf ei symptomau parhaus a sawl cyfle a gollwyd, dim ond ym mis Mai 2022 y cafodd Mrs F ei hatgyfeirio gan y Practis ar gyfer ymchwiliad pellach.

Penderfynom fod hwn yn fethiant gwasanaeth sylweddol.

“Ar ôl pwyso a mesur, mae’n drist gennyf ddod i’r casgliad ei bod yn debygol y byddai canser pledren Mrs F wedi cael diagnosis a thriniaeth yn gynt, pe bai atgyfeiriad brys wedi’i wneud ar gyfer Mrs F yn gynharach. Er na allaf fod yn sicr y byddai hyn wedi atal marwolaeth Mrs F, ar ôl pwyso a mesur, mae’n debygol y byddai wedi goroesi yn hirach. Mae hyn yn anghyfiawnder difrifol, nid yn unig i Mrs F, ond hefyd yn ffynhonnell barhaus o drallod i Ms D a'i theulu.

Er fy mod yn derbyn y gall fod yn anodd i feddygon teulu ystyried materion lluosog o fewn cyfyngiadau un slot apwyntiad, os na ellir mynd i’r afael â materion yn ddigonol yna dylid trefnu apwyntiad dilynol.”

Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ein Hargymhellion 

Argymhellom y dylai’r Practis ymddiheuro i Ms D, nodi unrhyw bwyntiau dysgu o’r achos, a darparu hyfforddiant perthnasol i glinigwyr.

O ganlyniad i’r gŵyn, dywedodd y Practis y byddai’n gwneud newidiadau i’r ffordd y mae’n gwneud trefniadau dilynol â chleifion gyda heintiau’r llwybr wrinol. Byddai’n sefydlu system rybuddio ar gyfer dilyniant cleifion â gwaed parhaus yn eu wrin, yn enwedig fel un canfyddiad. Argymhellom fod y Practis yn rhoi cadarnhad i’n swyddfa bod y system rybuddio newydd ar waith.

Mae’r Practis wedi derbyn ein canfyddiadau a chasgliadau’r ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.

Darllewnch yr adroddiad llawn