Gan dynnu ar adolygiad o achosion a gaewyd gennym rhwng mis Ebrill 2023 a Medi 2024, mae ein hadroddiad yn taflu goleuni ar themâu sy’n codi dro ar ôl tro yn ymwneud â’r anawsterau y mae pobl wedi’u hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. 

Ymhlith y themâu a’r pwyntiau dysgu allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad yw’r diffyg addasiadau rhesymol ar gyfer unigolion ag anghenion penodol, megis anableddau dysgu, problemau symudedd difrifol, neu awtistiaeth a dyslecsia. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at heriau sy’n deillio o gyfathrebu yn wael â phobl sydd ag anghenion iaith neu nam ar y synhwyrau. 

Yn ogystal, mae’r adroddiad yn codi pryderon am gyrff cyhoeddus sydd wedi methu â threfnu polisïau darparu gwasanaethau â’u dyletswyddau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol. Fodd bynnag, mae hefyd yn amlygu enghreifftiau o arfer da sy’n dangos sut y gall gwasanaethau cyhoeddus fodloni safonau cydraddoldeb a hawliau dynol yn effeithiol. 

Mae’r adroddiad thematig yn gwneud sawl argymhelliad ar gyfer pob corff cyhoeddus yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar wella cynhwysiant a hygyrchedd ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r heriau go iawn a wynebir gan bobl Cymru wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Er nad ydym yn penderfynu a yw corff wedi torri dyletswyddau hawliau dynol neu gydraddoldeb, mae ein canfyddiadau yn amlygu meysydd lle gellir cryfhau cydraddoldeb a thegwch. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae fy swyddfa wedi rhannu gwybodaeth am achosion lle mae goblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol wedi cael eu hystyried mewn Coflyfr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol blynyddol. Fodd bynnag, mae rhai themâu cydraddoldeb a hawliau dynol yn parhau i ymddangos yn ein gwaith achos, er iddynt gael eu hamlygu’n flaenorol. Dyma pam ein bod wedi newid y fformat eleni o fod yn goflyfr i adroddiad thematig. Drwy fynd i’r afael â materion systemig a dysgu o enghreifftiau cadarnhaol, ein nod yw sicrhau triniaeth deg i bawb.” 

Yr Ombwdsmon.