Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o ran darparu llety i Sipsiwn a Theithwyr yn ôl adroddiad diweddaraf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Y gŵyn

Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl i Mr A a Mr B gwyno am y ffordd y deliodd Llywodraeth Cymru â chwyn a wnaed ganddynt am y ddarpariaeth o lety i Sipsiwn a Theithwyr.

Cwynodd Mr A a Mr B fod Llywodraeth Cymru wedi methu â sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn yr ardaloedd yr oeddent yn byw ynddynt, yn cymryd camau i ddiwallu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn unol â gofynion Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Cwynodd Mr A a Mr B hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi delio’n briodol â chwyn a wnaethant am y mater hwn.

 

Yr hyn a ganfu’r Ombwdsmon

Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i lunio Asesiadau o Lety Sipsiwn a Theithwyr (AauLST) a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo. Os bydd ALST cymeradwy yn dangos bod angen llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, gwna’r Ddeddf Tai (Cymru) 2014 hi’n ofynnol i awdurdod lleol ddefnyddio ei bwerau i ddiwallu’r angen hwnnw.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fonitro awdurdodau lleol yn flynyddol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithredu ar ganfyddiadau eu AauLST.

Canfu’r Ombwdsmon, er mai awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ddarparu llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, pan fo angen hynny, canfu gamweinyddiaeth ar ran Llywodraeth Cymru.  Methodd â chyflawni ei rôl arweinyddiaeth hollbwysig o ran sicrhau bod hyn yn digwydd ac ni chynhaliwyd unrhyw waith monitro o AauLST cymeradwy ers mis Ionawr 2020. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi methu ag ymgysylltu’n briodol â’r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd lle mae’r achwynwyr yn byw, ac wedi methu ag asesu AauLST diweddaredig gan y ddau awdurdod lleol er iddynt gael eu cyflwyno dros 2 flynedd yn ôl ym mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022.

Roedd hyn yn cyfyngu ar allu’r awdurdodau lleol hyn i gyflawni eu dyletswyddau ac achosodd rhwystredigaeth a gofid i Mr A a Mr B, ac o bosibl aelodau eraill o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru, nad yw eu hanghenion llety yn cael eu diwallu o hyd. Bwriad AauLST yw mynd i’r afael â’r diffyg dealltwriaeth o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru, a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at lety sy’n ddiwylliannol briodol. Mae’r diffyg llety a nodwyd yn golygu nad yw Mr A wedi gallu darparu cefnogaeth i’w deulu a bod Mr B a’i deulu yn parhau i ddioddef cyfnod hir o ddigartrefedd.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd na chafodd cwyn Mr A a Mr B ei thrin yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Dosbarthodd Llywodraeth Cymru eu cwyn yn anghywir fel un na ellid ei hystyried o dan ei pholisi a chymerodd gormod o amser i roi gwybod i Mr A a Mr B o hyn.

“Bu methiannau sylweddol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi methu â chyflawni ei rôl arweiniol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cymryd camau i ddiwallu’r angen am lety i Sipsiwn a Theithwyr.  Mae oedi a diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at ddiffyg cynnydd ac wedi cyfyngu ar allu awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion llety. Mae’r diffyg llety sydd ar gael wedi golygu nad yw Mr A, o bosibl, wedi gallu byw gyda’i deulu ehangach a rhoi cymorth iddynt ac mae Mr B a’i deulu wedi bod yn ddigartref ers nifer o flynyddoedd. Mae hyn yn anghyfiawnder iddynt ac yn achosi llawer o straen a rhwystredigaeth.

Pan gwynodd Mr A a Mr B i Lywodraeth Cymru am y methiannau hyn, dywedwyd wrthynt yn anghywir nad oedd eu hymholiad yn dod o fewn cwmpas ei pholisi cwynion. Roedd yr amser a gymerwyd i ddweud hyn wrth Mr A a Mr B yn ormodol. Roedd yr ymdriniaeth wael o’u cwyn yn dystiolaeth bellach o gamweinyddu ar ran Llywodraeth Cymru ac yn groes i Egwyddorion Ymdrin â Chwynion yn Effeithiol yr Awdurdod Safonau Cwynion.”

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Argymhellion yr Ombwdsmon 

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro i Mr A a Mr B a thalu £1,000 yr un iddynt am y methiannau a nodwyd ganddi a’r effaith arnynt.

Yn ogystal, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau ei bod yn rhoi gwybod yn glir i awdurdodau lleol am y gofyniad i barhau i gymryd camau i ddiwallu’r angen a nodwyd mewn AauLST cymeradwy tra bod AauLST diweddaredig yn cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru
  • penderfynu a ddylid cymeradwyo’r AauLST diwygiedig a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol
  • sefydlu cynllun ar gyfer sut y bydd yn adolygu’r broses ALST a’r trefniadau monitro.
  • atgoffa staff sy’n ymdrin â chwynion o bwysigrwydd ymateb mewn modd amserol. Dylai hefyd sicrhau bod yr holl staff sy’n ymdrin â chwynion yn cael hyfforddiant ar ei bolisi cwynion a sut y dylid ei gymhwyso.

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn: