Crynodeb

Lansiom ymchwiliad ar ôl i Mrs X gwyno fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â chynnig triniaeth iddi gyda fampridine ar ôl iddo gael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio gan y GIG yng Nghymru.

Canfûm, er bod fampridine wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru fel triniaeth a ariennir gan y GIG yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2019, nid oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi trefniadau ar waith o hyd i gynnig fampridine i Mrs X, nac unrhyw gleifion cymwys yn ei ardal.  

Yn ystod ein hymchwiliad, canfûm dystiolaeth bod y Bwrdd Iechyd wedi amcangyfrif y gallai fod tua 500 o gleifion yn ei ardal a allai fod yn gymwys ar gyfer y driniaeth hon. Dywedodd y Bwrdd Iechyd nad oedd wedi gallu cynnig y cyffur oherwydd diffyg adnoddau. Dywedodd fod achos busnes dros gyflwyno’r cyffur yn cael ei ddatblygu, gan gynnwys yr angen i recriwtio staff addas i sicrhau bod triniaeth fampridine yn cael ei chyflwyno’n ddiogel.

Dywedodd y Bwrdd Iechyd nad oedd yn gallu cyfeirio cleifion at fyrddau iechyd eraill gerllaw, gan fod ganddynt restrau aros eisoes ar gyfer mynediad i fampridine yn eu hardaloedd eu hunain.  Ni chaiff fampridine ei ariannu gan y GIG yn Lloegr, felly dywedodd y Bwrdd Iechyd nad oedd posibilrwydd o geisio cytundeb i atgyfeirio cleifion yno am driniaeth.  

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Dylai Llywodraeth Cymru gynnig meddyginiaethau sydd newydd eu cymeradwyo o fewn 60 diwrnod i gael eu cymeradwyo. Mae’n destun pryder felly nad yw fampridine yn cael ei gynnig i unrhyw un o’r cleifion cymwys yn ardal y Bwrdd Iechyd.

Hyd yn oed os bydd Panel Rhag-fuddsoddi’r Bwrdd Iechyd ei hun yn cymeradwyo’r cyllid ar unwaith, mae’r Bwrdd Iechyd wedi amcangyfrif 3 i 6 mis arall i recriwtio staff.  Mae hyn yn golygu mai’r cynharaf y gellid cynnig fampridine i gleifion yw canol 2024.  Mae hyn yn cynrychioli dros 4 blynedd ers cymeradwyo fampridine fel triniaeth a ariennir gan y GIG yng Nghymru. 

Mae’r oedi hwn yn annerbyniol.  Mae wedi achosi ac yn parhau i achosi anghyfiawnder i Mrs X, a chleifion eraill, sy’n parhau i fod yn aneglur ynghylch pryd fydd ganddynt, neu a fydd ganddynt, fynediad at y feddyginiaeth hon a allai wella ei bywyd.”

Argymhellion

Argymhellom y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs X ac y dylai sefydlu cynllun gweithredu ar fyrder, gydag amserlenni, ar gyfer darparu fampridine. Gofynnom hefyd i’r Bwrdd Iechyd rannu ein hadroddiad gyda’r Bwrdd neu’r pwyllgor perthnasol a ddylai oruchwylio cynllun gweithredu a’i hadolygu yn rheolaidd i sicrhau bod cynnydd da yn cael ei wneud a bod y camau gweithredu wedi’u cwblhau.  

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi derbyn ein canfyddiadau a chasgliadau ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.

Gallwch ddarllen y fersiwn llawn o’r adroddiad budd y cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (202301069) yma.