Gair gan Michelle

Croeso i ail rifyn ein cylchlythyr.

Ei nod yw cyflwyno crynodeb sydyn a hawdd ei ddeall i chi o’n gwaith dros y misoedd diwethaf – gan gynnwys y prif dueddiadau cwynion rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni a chanlyniadau diweddaraf atgyfeiriadau Cod Ymddygiad.

Fodd bynnag, achubwn hefyd ar y cyfle hwn i grynhoi yma sawl cyhoeddiad allweddol.  Er na chyhoeddom unrhyw adroddiadau budd y cyhoedd ers y cylchlythyr diwethaf, mae wedi bod yn rai misoedd prysur!

Ym mis Mehefin, roeddem yn falch o gyhoeddi ein hadroddiad strategol ‘Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Beunyddiol 2’’ sy’n tynnu sylw rai themâu yn y modd y mae’r GIG yn delio â chwynion. Ym mis Gorffennaf, gosodom ein Hadroddiad Blynyddol 2022/23 gerbron y Senedd, sy’n tynnu sylw, unwaith eto, at gynnydd yn nifer y cwynion sy’n cyrraedd ein swyddfa. Yn olaf, dros yr wythnos diwethaf, cyhoeddom ein Llythyrau Blynyddol i Fyrddau Iechyd a chynghorau lleol Cymru yn ogystal â chyhoeddi data manwl ar sut y deliodd y cyrff hyn â chwynion yn 2022/24.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r staff am eu gwaith caled dros y misoedd diwethaf.  Ond nid yw ein llwyth gwaith yn dangos unrhyw arwyddion o arafu! Yn ogystal â’n gwaith craidd o ymdrin â chwynion, rydym wrthi ar hyn o bryd yn dadansoddi tystiolaeth am hygyrchedd a’r defnydd o asesiadau o anghenion gofalwyr mewn pedwar cyngor lleol:  Caerffili, Ceredigion, Sir y Fflint a Chastell-nedd Port Talbot, fel rhan o’n Hymchwiliad ar ei Liwt ei Hun. Edrychwn ymlaen hefyd at sawl cyfle allgymorth, gan gynnwys y Gynhadledd Mastering Diversity, a chynadleddau gydag Un Llais Cymru a TPAS yn ddiweddarach yn yr Hydref. Bydd ein gwaith allgymorth yn cynnwys presenoldeb mewn Ffair Iechyd a drefnir gan Race Equality First, ynghyd â chynnal digwyddiad codi ymwybyddiaeth ar y cyd gyda Settled, sef elusen sy’n cefnogi dinasyddion yr UE yn y DU.

Edrychwn ymlaen at roi’r newyddion diweddaraf i chi am y gwaith hwn yn ein cylchlythyr nesaf!

Ein cwynion

Yn ystod chwarter cyntaf 2023/24, ar y cyfan, derbyniom 2484 o ymholiadau a chwynion newydd – cynnydd o 17% ar yr un cyfnod y llynedd. Cynyddodd ymholiadau gan 26% a chynyddodd cwynion Cod Ymddygiad gan 69%. Gwrthbwyswyd hyn gan ostyngiad o 3% yn nifer y cwynion am wasanaethau cyhoeddus.

Caeasom hefyd 2422 o achosion – gyda 784 ohonynt yn gwynion. Yn y chwarter diwethaf yn unig, gwnaethom gwblhau 54 o ymchwiliadau llawn am gwynion yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus. Roedd 86% o’r rhain yn ymwneud ag iechyd.

Atgyfeiriadau Cod Ymddygiad

Cawsom benderfyniadau ar atgyfeiriadau i Bwyllgorau Safonau a Phanel Dyfarnu Cymru:

  • Y Cynghorydd Tim Van – Rees (nad oedd bellach yn Aelod o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar adeg y gwrandawiad) – Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi defnyddio ei safle fel aelod o’r Awdurdod yn amhriodol wrth ohebu â’r achwynydd am fater sifil. Penderfynodd Pwyllgor Safonau Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru y dylid ceryddu’r Cyn Gynghorydd Van-Rees, gan nad yw bellach yn aelod o’r Awdurdod Tân.
  • Y Cyn Gynghorydd Jonathan Twigg (nad oedd bellach yn Aelod o Gyngor Tref Hwlffordd ar adeg y gwrandawiad) – Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi galw’r Clerc yn “un celwyddog” ar 2 achlysur yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Rheolaeth, Ystadau a Strategaeth y Cyngor.  Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Tref Hwlffordd y dylid ceryddu’r Cyn Gynghorydd Twigg, sef uchafswm y gosb sydd ar gael gan ei fod wedi ymddiswyddo yn fuan cyn y gwrandawiad.
  • Y Cynghorydd Sean Aspey o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi defnyddio ei safbwynt yn amhriodol mewn cysylltiad ag ymdrechion codi arian i wrthwynebu cynlluniau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ystyried defnyddio gwesty ym Mhorthcawl i gartrefu Canolfan Breswyl i Fenywod yng Nghymru. Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y dylid gwahardd y Cynghorydd am 3 mis.
  • Y Cyn Gynghorydd Donald Wilfred Jenkins o Gyngor Cymuned Llanarmon – Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi rhoi gwybodaeth ffug i Archwilio Cymru. Penderfynodd Panel Dyfarnu Cymru y dylai’r Aelod gael ei anghymhwyso am 15 mis rhag bod neu ddod yn aelod o’r awdurdod neu o unrhyw awdurdod perthnasol arall.
  • Y Cyn Gynghorydd Karen Laurie-Parry o Gyngor Sir Powys – Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi:

1. Datgelu gwybodaeth gyfrinachol.

2. Gwneud honiadau heb dystiolaeth i’w cefnogi i gynulleidfa eang.

3. Ymddwyn yn amhriodol yn ystod sesiwn gyfrinachol o gyfarfod llawn y Cyngor ar 15 Gorffennaf.

4. Gwneud gofynion afresymol.

5. Mynnu swm afresymol o amser a sylw swyddogion.

6. Gwneud cwynion blinderus a chwynion di-sail.

7. Ymddwyn yn amhriodol yn ystod sesiwn gyfrinachol o gyfarfod llawn y Cyngor ar 15 Gorffennaf.

Penderfynodd Panel Dyfarnu Cymru y dylid anghymhwyso‘r Cynghorydd am 18 mis.

  • Y Cynghorydd dros dro Steve Davies o Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth – Rydym yn ymchwilio i gŵyn bod y Cynghorydd wedi torri’r Cod Ymddygiad.   Yn ystod yr ymchwiliad, cyhoeddom adroddiad interim i Banel Dyfarnu Cymru (PDC) yn argymell ei bod er budd y cyhoedd i’r Cynghorydd gael ei wahardd yn syth o’i rôl fel cynghorydd ar y ddau awdurdod lleol, hyd nes y bydd ein hymchwiliad i’r gŵyn yn dod i ben.

Canfu tribiwnlys Achos Dros Dro PDC fod tystiolaeth prima facie yn golygu ei bod yn ymddangos bod y Cynghorydd Davies wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad a’i bod er budd y cyhoedd i atal y Cynghorydd Davies am gyfnod o hyd at 6 mis, hyd nes y bydd canlyniad ein hymchwiliad.   Gan mai atgyfeiriad dros dro oedd hwn, nid oes unrhyw ganfyddiadau o ffaith wedi’u gwneud ar hyn o bryd. Mater i Dribiwnlys Achos fydd hwn i’w benderfynu, pe bawn yn penderfynu cyfeirio’r mater at PDC pan fydd ei hymchwiliad wedi dod i ben.

Ein Hadroddiad Blynyddol 2022/23

Ym mis Gorffennaf, gosodom ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2022/23 ‘Blwyddyn o newid – blwyddyn o her’ gerbron y Senedd.

Rydym yn croesawu’r gostyngiad yn nifer y cwynion newydd am y Cod Ymddygiad, ac yn nifer yr achosion difrifol bosibl o dorri’r Cod y bu’n rhaid i ni eu cyfeirio. Gwnawn gynnydd chwim a’n gwaith gwella, gyda mwy o gyrff yn dod o dan ein safonau cwynion. Yn anad dim, datblygom yn ystod y flwyddyn ein Cynllun Strategol newydd, gan osod allan ein huchelgeisiau ar gyfer ein swyddfa, gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth leol yng Nghymru.

Er gwaethaf y rhain a phethau cadarnhaol eraill, mae hefyd wedi bod yn flwyddyn heriol iawn. Gwelwn fwy o gwynion am wasanaethau cyhoeddus. Mae iechyd yn parhau i fod yn destun dros 80% o’n hymchwiliadau ar y cyfan, ac mae’r ymchwiliadau hyn yn aml yn hir a chymhleth. Roedd y llwyth gwaith hwn yn golygu y bu’n rhaid i rai pobl aros yn hirach am ganlyniad.  Mae ein llwyth gwaith cynyddol hefyd wedi effeithio ar lesiant ein staff.

Hyderwn y bydd ein Cynllun Strategol newydd yn ein helpu i weithio’n fwy effeithlon ac i gael mwy o effaith, tra hefyd yn caniatáu i ni barhau i fod yn weithle cefnogol ac iach. Serch hynny, mae ein pwysau cynyddol o ran llwyth achosion yn bryder cynyddol a byddwn yn realistig am yr adnoddau a’r gallu sydd ar gael i ni gyflawni newid wrth i ni gychwyn ar y bennod newydd hon yn ein gwasanaeth i bobl Cymru.

Ein hadroddiad strategol: ‘Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Beunyddiol 2′

Ym mis Mehefin cyhoeddom ‘Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Beunyddiol 2: Cyfle i Newid y Ffordd Rydym yn Delio â Chwynion?’ sy’n canolbwyntio ar faterion parhaus yn ymwneud â sut y mae Byrddau Iechyd Cymru yn delio â chwynion.

Mae’n adeiladu ar “Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Beunyddiol:  Dysgu Gwersi o Ddelio’n Wael â Chwynion”, a gyhoeddodd ein swyddfa ym mis Mawrth 2017. Mae’n dangos bod y gwersi a amlygodd ein swyddfa yn 2017 yn parhau i fod yn berthnasol heddiw.

Mae’r enghreifftiau o achosion yn yr Adroddiad yn dangos bod Byrddau Iechyd, yn rhy aml o lawer, yn ymateb i gwynion yn amddiffynnol yn hytrach na’u gweld fel cyfle i ddysgu ac i wella’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Mae’r themâu a nodir yn yr Adroddiad yn nodi meysydd lle mae angen dysgu a gwella ar frys i wella profiad y claf a’r achwynydd.

  • Diffyg didwylledd a gonestrwydd
  • Diffyg adolygiad gwrthrychol o ofal a thriniaeth glinigol
  • Amseroldeb ac ansawdd gohebiaeth
  • Cadernid a thegwch ymchwiliadau a gynhelir gan Fyrddau Iechyd.

Mae’r Adroddiad yn pwysleisio bod cyflwyno’r ‘Ddyletswydd Gonestrwydd’, sy’n berthnasol i bob sefydliad iechyd yng Nghymru o1 Ebrill eleni, yn cyflwyno cyfle newydd ar gyfer newid diwylliannol. Mae’r Ddyletswydd yn mandadu sefydliadau iechyd i fod yn agored, yn dryloyw ac yn onest pan fydd cleifion yn profi niwed yn ystod gofal iechyd.  Nod y newid diwylliannol hwn yn hyrwyddo gonestrwydd a dysgu systematig o gamgymeriadau.

Llythyrau Blynyddol

Bob blwyddyn, anfonwn lythyrau i gynghorau lleol a Byrddau Iechyd yn ymwneud â’r cwynion a gawsom ac ystyriasom amdanynt yn ystod y flwyddyn.

Trwy’r llythyrau hyn, rydym am eu helpu i wella eu dull o ymdrin â chwynion a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Cyhoeddom y llythyrau ar gyfer 2022/23 ar 18 Awst a gofynnom i’r sefydliadau eu hystyried yn fewnol a rhoi gwybod i ni pan fyddant wedi gwneud hynny.

Data Safonau Cwynion ar gyfer 2022/23

Yn olaf, dim ond wythnos hon, cyhoeddom ddata ar gwynion y mae Byrddau Iechyd a chynghorau lleol wedi ymdrin â nhw yn 2022/23. Casglwn a dadansoddwn y data hwn fel rhan o’n gwaith Safonau Cwynion, i ysgogi dulliau gwell a mwy tryloyw o ymdrin â chwynion yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cliciwch yma am ddata manwl.

********

Hoffech dderbyn ein cylchlythyr? Rhowch wybod i ni yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru