Yr wythnos diwethaf, gwnaethom anfon ein llythyrau blynyddol at gynghorau lleol a Byrddau Iechyd.

Mae’r llythyrau yn ymwneud â’r cwynion rydym wedi’u derbyn a’u hystyried am y sefydliadau hyn yn ystod y flwyddyn.

Drwy’r llythyrau hyn, rydym am helpu cynghorau lleol a Byrddau Iechyd i wella eu dulliau o ymdrin â chwynion a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Ydych chi eisiau gwybod mwy am y cwynion y gwnaethom eu hystyried am eich darparwr gwasanaethau lleol yn 2022/23? Ewch i: Llythyrau Blynyddol 2022/2023.