Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i gŵyn bod y Cynghorydd Steve Davies o Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr. Yn ystod yr ymchwiliad, cyhoeddodd yr Ombwdsmon adroddiad interim i Banel Dyfarnu Cymru (‘PDC’) yn argymell ei bod er budd y cyhoedd i’r Cynghorydd Steve Davies gael ei wahardd yn syth o’i rôl fel cynghorydd ar y ddau awdurdod lleol, hyd nes y bydd ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r gŵyn yn dod i ben.

Canfu tribiwnlys Achos Dros Dro PDC fod tystiolaeth prima facie yn golygu ei bod yn ymddangos bod y Cynghorydd Davies wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad a’i bod er budd y cyhoedd i atal y Cynghorydd Davies am gyfnod o hyd at 6 mis, hyd nes y bydd canlyniad ymchwiliad yr Ombwdsmon. Gan mai atgyfeiriad dros dro oedd hwn, nid oes unrhyw ganfyddiadau o ffaith wedi’u gwneud ar hyn o bryd, mater i Dribiwnlys Achos fydd hwn i’w benderfynu, pe bai’r Ombwdsmon yn penderfynu cyfeirio’r mater at PDC pan fydd ei hymchwiliad wedi dod i ben.

Nodiadau

Os, yn ystod ymchwiliad, os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynghorydd gael ei atal dros dro ar unwaith, hyd nes y daw ei hymchwiliad i ben, gall gyfeirio’r mater at PDC. Os yw PDC o’r farn bod tystiolaeth prima facie yn awgrymu y gallai’r aelod fod wedi torri’r Cod Ymddygiad ac mae natur unrhyw doriad yn y Cod yn debygol o arwain at waharddiad, yna gall PDC atal y cynghorydd dros dro am hyd at 6 mis, hyd nes y bydd canlyniad ymchwiliad yr Ombwdsmon.