Roedd adroddiad yr Ombwdsmon yn ymwneud â chwyn bod y Cyn-Gynghorydd Karen Laurie-Parry wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod y Cyn-Gynghorydd wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol a gwneud cwynion blinderus a chwynion di-sail ymysg honiadau eraill.

O ganlyniad, cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru.

Canfu’r ymchwiliad fod ymddygiad y Cyn-Gynghorydd Karen Laurie-Parry yn awgrymu torri paragraffau 4(b), 4(c), 5(a), 6(1)(a) a 6(1)(d) o’r Cod Ymddygiad.

Daeth Panel Dyfarnu Cymru i’r casgliad y dylid anghymwyso’r Cyn-Gynghorydd am 18 mis rhag bod, neu rhag dod, yn aelod o’r awdurdod neu unrhyw awdurdod perthnasol arall.

Gan mai pwrpas y fframwaith safonau moesegol yng Nghymru yw hyrwyddo safonau uchel i gynghorwyr a chynnal hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol, croesawodd yr Ombwdsmon y penderfyniad i anghymwyso’r Cynghorydd a diolchodd i aelodau Panel Dyfarnu Cymru am ystyried yr achos yn ofalus.

Nodiadau 

Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi pwerau statudol i ni ymchwilio i honiadau bod aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad. Bwriad y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau etholedig yw cynnal safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ac mae’n cynnwys y gofyniad na ddylai aelodau etholedig ddwyn anfri ar eu hawdurdod na’u swydd fel cynghorydd.

Pan fydd ein hymchwiliad yn canfod bod y dystiolaeth yn awgrymu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad a bod angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, gallwn gyfeirio’r mater naill ai at Banel Dyfarnu Cymru neu at Bwyllgor Safonau lleol i’w ystyried.

Pan fydd Panel Dyfarnu Cymru yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 12 mis neu anghymhwyso’r aelod rhag dal swydd am hyd at 5 mlynedd.

Pan fydd Pwyllgor Safonau yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 6 mis neu roi cerydd i’r aelod.  Pan na fydd aelod sy’n destun atgyfeiriad i bwyllgor safonau bellach yn dal swydd fel aelod, dim ond ceryddu’r aelod gall y Pwyllgor Safonau ei wneud.