Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyn-Gynghorydd Van-Rees wedi dibynnu ar ei swydd fel Aelod o’r Awdurdod a’i fod wedi ysgrifennu at yr achwynydd i’w gwneud yn ofynnol i gael gwared ar gât yr oedd yr Aelod wedi datgan iddi achosi risg tân. Awgrymodd y dystiolaeth a gafwyd gan yr Ombwdsmon nad oedd gan yr Aelod awdurdod i benderfynu a oedd y giât yn peri risg tân a bod swyddogaethau o’r fath ar gyfer y Gwasanaeth Tân, nid i’r Awdurdod na’i Aelodau.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai’r Aelod fod wedi torri paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad gan ei fod wedi defnyddio ei swydd fel Aelod o’r Awdurdod yn amhriodol i sicrhau mantais i’w gleientiaid mewn anghydfod sifil preifat.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod tôn gohebiaeth yr Aelod i’r achwynydd yn amhriodol.  Yn ystod yr ymchwiliad, gwnaeth yr Aelod nifer o sylwadau am iechyd meddwl yr achwynydd, yr oedd yr Ombwdsmon yn eu hystyried yn amharchus ac yn wahaniaethol mewn perthynas ag anabledd posibl.

Cyfeiriodd yr Ombwdsmon adroddiad at yr Awdurdod a daeth ei Bwyllgor Safonau i’r casgliad bod y Cyn-gynghorydd Van-Rees wedi torri paragraffau 4(a), 4(b), 6(1)(a) a 7(a) o’r Cod Ymddygiad.  Gan nad oedd y Cyn-gynghorydd Van-Rees bellach yn aelod o’r Awdurdod adeg y gwrandawiad, penderfynodd y Pwyllgor Safonau ei geryddu.

Gan mai pwrpas y fframwaith safonau moesegol yng Nghymru yw hyrwyddo safonau uchel i gynghorwyr a chynnal hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol, croesawodd yr Ombwdsmon y penderfyniad i geryddu’r Cyn-Gynghorydd a diolchodd i aelodau’r Pwyllgor Safonau am ystyried yr achos yn ofalus.

Mae adroddiad y Pwyllgor Safonau ar gael ar wefan yr Awdurdod Tân – Pwyllgor Safonau Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Pwyllgor Safonau Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Hysbysiad o Benderfyniad (tancgc.gov.uk)

Nodiadau 

Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi pwerau statudol i ni ymchwilio i honiadau bod aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad. Bwriad y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau etholedig yw cynnal safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ac mae’n cynnwys y gofyniad na ddylai aelodau etholedig ddwyn anfri ar eu hawdurdod na’u swydd fel cynghorydd.

Pan fydd ein hymchwiliad yn canfod bod y dystiolaeth yn awgrymu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad a bod angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, gallwn gyfeirio’r mater naill ai at Banel Dyfarnu Cymru neu at Bwyllgor Safonau lleol i’w ystyried.

Pan fydd Panel Dyfarnu Cymru yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 12 mis neu anghymhwyso’r aelod rhag dal swydd am hyd at 5 mlynedd.

Pan fydd Pwyllgor Safonau yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 6 mis neu roi cerydd i’r aelod.  Pan na fydd aelod sy’n destun atgyfeiriad i bwyllgor safonau bellach yn dal swydd fel aelod, dim ond ceryddu’r aelod gall y Pwyllgor Safonau ei wneud.