Roedd adroddiad yr Ombwdsmon yn ymwneud â chwyn bod y Cyn Gynghorydd Donald Wilfred Jenkins wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi rhoi gwybodaeth ffug i Archwilio Cymru.

Canfu’r ymchwiliad fod ymddygiad y Cyn-Aelod yn awgrymu torri’r paragraffau canlynol o’r Cod Ymddygiad:

  • 6(1)(1) – Ni ddylai aelodau ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.
  • 7(a) – Ni ddylai aelodau, yn rhinwedd eu capasiti swyddogol neu fel arall, ddefnyddio na cheisio defnyddio eu swydd yn amhriodol i geisio mantais i’w hunain, neu i unrhyw berson arall, neu i greu neu osgoi anfantais iddynt hwy eu hunain, neu unrhyw berson arall.

O ganlyniad, cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru.

Daeth Panel Dyfarnu Cymru i’r casgliad y dylid anghymwyso’r Cyn Aelod am 15 mis rhag bod, neu rhag dod, yn aelod o’r awdurdod neu unrhyw awdurdod perthnasol arall.

Gan mai pwrpas y fframwaith safonau moesegol yng Nghymru yw hyrwyddo safonau uchel i gynghorwyr a chynnal hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol, croesawodd yr Ombwdsmon y penderfyniad i wahardd y Cynghorydd a diolchodd i aelodau Panel Dyfarnu Cymru am ystyried yr achos yn ofalus.

Nodiadau 

Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi pwerau statudol i ni ymchwilio i honiadau bod aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad. Bwriad y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau etholedig yw cynnal safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ac mae’n cynnwys y gofyniad na ddylai aelodau etholedig ddwyn anfri ar eu hawdurdod na’u swydd fel cynghorydd.

Pan fydd ein hymchwiliad yn canfod bod y dystiolaeth yn awgrymu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad a bod angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, gallwn gyfeirio’r mater naill ai at Banel Dyfarnu Cymru neu at Bwyllgor Safonau lleol i’w ystyried.

Pan fydd Panel Dyfarnu Cymru yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 12 mis neu anghymhwyso’r aelod rhag dal swydd am hyd at 5 mlynedd.

Pan fydd Pwyllgor Safonau yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 6 mis neu roi cerydd i’r aelod.  Pan na fydd aelod sy’n destun atgyfeiriad i bwyllgor safonau bellach yn dal swydd fel aelod, dim ond ceryddu’r aelod gall y Pwyllgor Safonau ei wneud.