Roedd adroddiad yr Ombwdsmon yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd Terry Davies wedi torri’r Cod ymddygiad pan wnaeth ymddwyn yn amhriodol yn ystod rhyngweithiad ag aelodau eraill.

Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad bod y Cynghorydd Terry Davies wedi torri paragraffau 4(a), 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.

Felly, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylid gwahardd y Cynghorydd Terry Davies am 1 mis a bod yn ofynnol iddo fynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad.  Gan mai pwrpas y fframwaith safonau moesegol yng Nghymru yw hyrwyddo safonau uchel i gynghorwyr a chynnal hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol, croesawodd yr Ombwdsmon y penderfyniad i wahardd y Cynghorydd a diolchodd i aelodau’r Pwyllgor Safonau am ystyried yr achos yn ofalus.

Nodiadau 

Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi pwerau statudol i ni ymchwilio i honiadau bod aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad. Bwriad y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau etholedig yw cynnal safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ac mae’n cynnwys y gofyniad na ddylai aelodau etholedig ddwyn anfri ar eu hawdurdod na’u swydd fel cynghorydd.

Pan fydd ein hymchwiliad yn canfod bod y dystiolaeth yn awgrymu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad a bod angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, gallwn gyfeirio’r mater naill ai at Banel Dyfarnu Cymru neu at Bwyllgor Safonau lleol i’w ystyried.

Pan fydd Panel Dyfarnu Cymru yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 12 mis neu anghymhwyso’r aelod rhag dal swydd am hyd at 5 mlynedd.

Pan fydd Pwyllgor Safonau yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 6 mis neu roi cerydd i’r aelod.  Pan na fydd aelod sy’n destun atgyfeiriad i bwyllgor safonau bellach yn dal swydd fel aelod, dim ond ceryddu’r aelod gall y Pwyllgor Safonau ei wneud.