Yn 2019, ystyrion ni gŵyn gan Mr N am Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cwynodd Mr N i’r Awdurdod yn wreiddiol yn 2015 mewn cysylltiad â dŵr o dir yr Awdurdod a oedd yn effeithio ar drac heb ei wneud a oedd yn arwain at ei eiddo. Cyhoeddodd yr Awdurdod ei benderfyniad ar y gŵyn hon tua 3 blynedd yn ddiweddarach. Cwynodd Mr N wedyn i ni am yr oedi cyn datrys ei gŵyn. Cwynodd hefyd nad oedd yr Awdurdod wedi gweithredu’r argymhellion ar gyfer gweithredu a nodwyd yn ei ymchwiliad ei hun i’w gŵyn – sef, rhoi wyneb newydd ar y trac a symud neu ailosod grid gwartheg yn ogystal â ffensio ar dir comin (a oedd angen caniatâd Llywodraeth Cymru).

Cadarnhaon ni gŵyn Mr N ym mis Medi 2019 a chyhoeddodd argymhellion ar gyfer camau gweithredu, y cytunodd yr Awdurdod i’w gweithredu.

Fodd bynnag, yn 2021, cwynodd Mr N i ni eto nad oedd yr Awdurdod wedi gweithredu’r argymhellion hyn. Setlon ni’r gŵyn honno ym mis Chwefror 2022, gyda’r Awdurdod yn cytuno i gwblhau’r gwaith ar y traciau a’r grid gwartheg erbyn diwedd mis Mawrth 2022, a chwblhau’r ffensio o fewn 3 mis o dderbyn caniatâd gan Lywodraeth Cymru yr oedd ei angen ar gyfer y gwaith.  Fodd bynnag, erbyn diwedd mis Hydref 2022, nid oedd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau, ac roedd y cais i Lywodraeth Cymru wedi “dod i ben” ac roedd angen ail-gyflwyno.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

 “Yn anaml iawn rydym yn cyhoeddi Adroddiadau Arbennig – roedd yr un olaf yn 2020. Mae hyn oherwydd yn y mwyafrif helaeth o achosion mae cyrff cyhoeddus yn cytuno â’n hargymhellion ac yn cydymffurfio fel y cytunwyd.

 “Fodd bynnag, yn yr achos hwn, caniatawyd i’r sefyllfa fynd yn ddifater am lawer rhy hir.  Mae Mr N wedi bod yn aros i gamau gael eu cymryd i ddatrys ei gŵyn ers dros 7 mlynedd, ac mae dros 3 blynedd wedi mynd heibio ers i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol gytuno’n gyntaf ar argymhellion ein hadroddiad.”

 “Mae’n hollol anghywir i gorff cyhoeddus fethu â chymryd camau prydlon ac effeithiol i sicrhau bod argymhellion y cytunwyd arnynt yn cael eu gweithredu – ac i fethu a gwireddu ei addewidion i’r achwynwyr ac i’m swyddfa.”

 Argymhellon ni fod yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn anfon ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr N gan y Prif Weithredwr a thalu £1000 iddo i gydnabod ei amser a’i drafferth. Yn ychwanegol, argymhellon ni y dylai’r Awdurdod:

  1. gwblhau’r gwaith ar y trac a’r grid gwartheg fel mater o frys.
  2. gwneud popeth o fewn ei allu i wneud cynnydd ar y cais i Lywodraeth Cymru am ganiatâd i reoli’r ffensys ar dir comin.
  3. cyflwyno ein hadroddiad yn ffurfiol i gyfarfod nesaf ei Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu, a phan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, darparu tystiolaeth ddogfennol/ffotograffaidd briodol i ni.
  4. o fewn 4 mis, cynnal adolygiad o sut y deliodd â chwyn Mr N a’r camau gweithredu dilynol i nodi gwersi i’w dysgu.

Er ein bod yn falch bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cytuno i weithredu ein hargymhellion, mae’n siomedig iawn bod camweinyddu pellach wedi digwydd sydd wedi arwain at wario adnoddau cyfyngedig ein swyddfa i fynd ar drywydd y mater hwn ymhellach pan ddylai’r gwaith fod wedi’i gwblhau beth amser yn ôl. Rydym yn disgwyl nawr i aelodau Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu’r Awdurdod oruchwylio’r cynnydd yn erbyn yr argymhellion ac mae’r adroddiad wedi’i rannu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r Gweinidog Newid Hinsawdd y mae ei chyfrifoldeb yn cynnwys Parciau Cenedlaethol.

I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.