Gallwn gychwyn ymchwiliad i unrhyw fater hyd yn oed heb dderbyn cwyn. Gallwn wneud hyn os ydym yn penderfynu y gallai rhywbeth fod wedi mynd o’i le gyda gwasanaethau cyhoeddus; bod y mater wedi cael effaith negyddol ar grŵp eang o ddinasyddion (yn enwedig os ydynt yn agored i niwed neu o dan anfantais); a byddai ymchwilio i’r mater o fudd i’r cyhoedd.

Nod yr ymchwiliad arfaethedig fyddai darganfod a yw gofalwyr yn wynebu unrhyw rwystrau wrth geisio cael awdurdodau lleol i asesu eu hanghenion. Byddai hefyd yn ystyried a yw prosesau cwynion cyrff iechyd ac awdurdodau lleol yn hygyrch ac yn effeithiol i ofalwyr a’r sawl sy’n derbyn gofal.

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

Ystyr gofalwr yw rhywun sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl. Gall hyn olygu gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, yn methu ymdopi heb eu cymorth.

Mae deuddeg y cant o boblogaeth Cymru yn ofalwyr.  Mae’n rhesymol tybio eu bod nhw, a’r sawl sy’n derbyn gofal, yn arbennig o ddibynnol ar wasanaethau cyhoeddus.  Fodd bynnag, prin iawn o gwynion a gawn gan ofalwyr a’r sawl sy’n derbyn gofal.

Trwy’r ymchwiliad hwn, rydym yn gobeithio adnabod unrhyw rwystrau y gall gofalwyr fod yn eu hwynebu wrth geisio cael eu hanghenion wedi eu hasesu neu wrth iddynt gwyno i gyrff iechyd neu awdurdodau lleol. Mae’n hanfodol bod lleisiau gofalwyr, a’r sawl y maent yn gofalu amdanynt, yn cael eu clywed – a bod cyrff cyhoeddus yn bodloni eu hanghenion yn briodol ac yn datrys unrhyw bryderon mewn modd effeithiol a phrydlon. Rydym yn annog yn gynnes unrhyw un sydd â diddordeb neu brofiad yn y pwnc hwn i ymateb i’n hymgynghoriad.

Er mwyn gweld manylion yr ymgynghoriad, ewch yma.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 6 Chwefror (canol nos).