Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru

Mae’r data yn dangos bod Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru wedi derbyn dros 10,500 o gwynion rhwng Ebrill a Medi 2022. Mae hyn yn cyfateb i 6.84 o gwynion am bob 1,000 o breswylwyr yng Nghymru.* (Rydyn yn defnyddio’r math hwn o gynrychiolaeth i gymharu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy’n amrywio yn fawr o ran maint yn well).

Mae’r data a gasglwyd gennym yn dangos bod 28% o’r cwynion a gofnodwyd gan Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn ymwneud â thriniaeth neu asesiad clinigol, 18% yn ymwneud ag apwyntiadau, a 17% yn ymwneud â materion cyfathrebu.

Caeodd Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru ychydig dros 9,700 o gwynion o fewn y cyfnod perthnasol – 76% o fewn y targed o 30 diwrnod gwaith.

Pan fydd pobl yn anhapus â’r ffordd y mae darparwyr gwasanaeth wedi ystyried eu cwynion, gallant gyfeirio’r cwynion hynny atom ni. Felly, mae nifer y cwynion y mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru wedi ymdrin â nhw yn rhoi cyd-destun i lwyth ein hachosion ni hefyd.

Rhwng Ebrill a Medi 2022, derbyniom ychydig llai na 500 o gwynion yn ymwneud â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod tua 5% o’r holl gwynion y mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaeth wedi’u cau o fewn y cyfnod perthnasol wedi’u cyfeirio atom ni.

O fewn yr un cyfnod, caeom 413 o gwynion am Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau (byddai rhai ohonynt wedi cael eu cyfeirio at y swyddfa cyn Ebrill 2022).

Canfuom fod rhywbeth wedi mynd o’i le a bu’n rhaid ymyrryd mewn 28% o’r achosion hynny, drwy argymell Datrysiad Cynnar**, neu setlo neu gadarnhau cwyn ar ôl ymchwilio. Ar y cyfan, mae hyn yn gyson â’r gyfradd ymyrryd mewn cysylltiad â chwynion am Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Awdurdodau Lleol yng Nghymru

Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi heddiw y wybodaeth ddiweddaraf am gwynion y mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi ymdrin â nhw. Yn ystod hanner cyntaf 2022/23, cofnododd Awdurdodau Lleol fwy na 7,500 o gwynion. Mae hyn yn cyfateb i 4.92 o gwynion ar gyfer pob 1,000 o breswylwyr.

Roedd 31% o’r cwynion a gofnodwyd gan Awdurdodau Lleol yn ymwneud â gwastraff a sbwriel – thema sy’n parhau ers blynyddoedd blaenorol – roedd 16% yn ymwneud â thai, ac roedd 13% yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.

Yn debyg i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru, deliodd Awdurdodau Lleol â thua 76% o gwynion o fewn yr amser targed – er bod Awdurdodau Lleol yn defnyddio targed byrrach o 20 diwrnod gwaith. Mae’r perfformiad hwn yn debyg i flynyddoedd blaenorol.

Cadarnhaodd Awdurdodau Lleol tua 40% o’r holl gwynion, yr un fath yn fras â’r llynedd.

O fewn yr un cyfnod, derbyniom 508 o gwynion newydd am Awdurdodau Lleol.

Caeom 548 o gwynion o’r fath hefyd (byddai rhai ohonynt wedi cael eu cyfeirio at y swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol). Ymyrrom mewn 12% o’r achosion hynny, drwy argymell Datrysiad Cynnar**, neu setlo neu gadarnhau cwyn ar ôl ymchwilio.

Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi data cwynion gan Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae amlygrwydd y wybodaeth hon yn helpu cyrff cyhoeddus i wella’r ffordd y maen nhw’n darparu gwasanaethau, yn hyrwyddo tryloywder, ac mae’n dangos lefel y gwasanaeth y maen nhw’n ei ddarparu i’r cyhoedd. Rydyn ni wedi bod yn cyhoeddi data ar Awdurdodau Lleol am fwy na 12 mis, ac rydyn ni’n gobeithio fod y cam nesaf hwn yn dangos rhywfaint o werth ein Hawdurdod Safonau Cwynion.”

Dywedodd Matthew Harris, y Pennaeth Safonau Cwynion,

“Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cyhoeddi’r data hwn am y tro cyntaf heddiw. Rydyn ni wedi bod yn gweithio â chyrff cyhoeddus ers 2019 i’w helpu i deimlo’n hyderus yn y ffordd y maen nhw’n ymdrin â chwynion. Data yw dechrau’r stori bob amser, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi ffyrdd newydd a gwell i ni ddisgrifio perfformiad.”

*Caiff y ffigur hwn ei addasu i allu cymharu â ffigurau blwyddyn gyfan

** Mewn rhai achosion, gallwn fod o’r farn y gallai’r sefydliad sy’n destun cwyn gymryd camau cyflym er mwyn datrys y gŵyn. Yn yr achosion hyn, byddwn yn cysylltu â’r sefydliad dan sylw i egluro’r hyn y credwn y gellid ei wneud a cheisio ei gytundeb i fwrw ymlaen â hynny.

 

Mae modd canfod yr ystadegau sydd wedi eu cyhoeddi ar ein gwefan yma.