Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl i Mr A gwyno am ei ofal a’i reolaeth yn dilyn ei atgyfeiriad i Ymddiriedolaeth Ysbyty’r GIG yn Lloegr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Ar ôl comisiynu’r gofal gan yr Ymddiriedolaeth, parhaodd y Bwrdd Iechyd i fod yn gyfrifol am fonitro a goruchwylio’r gwasanaeth a ddarparwyd gan yr Ymddiriedolaeth.

Roedd Mr A yn bryderus bod niwrolegydd ymgynghorol a oedd wedi’i archwilio wedi methu a gwneud diagnosis o’i sglerosis ymledol rhwng 18 Mai 2018 a 19 Medi 2019.  Roedd hefyd yn bryderus nad oedd ymatebion yr Ymddiriedolaeth a’r Bwrdd Iechyd i’w gŵyn yn gadarn ac yn gywir.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.  Canfu fod yr ymchwiliad i gyflwr Mr A, a’r amser a gymerwyd i wneud diagnosis o gyflwr Mr A, yn is na’r safon briodol o ofal.

Pan gyfeiriwyd pryder Mr A at y Bwrdd Iechyd, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus na adolygodd yr Ymddiriedolaeth y gofal a roddwyd i Mr A yn briodol er mwyn bodloni ei hun bod y gofal a gomisiynwyd ganddo yn addas.  Yn hytrach, ymddengys fel pe bai’n ‘rhoi sêl bendith’ ar ymateb yr Ymddiriedolaeth i’r gŵyn, ac ni ystyriwyd y dewis a oedd ar gael i’r Bwrdd Iechyd o geisio ei farn glinigol annibynnol ei hun.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Rwy’n fodlon na fyddai diagnosis cynharach wedi newid canlyniad clefyd Mr A yn sylweddol.  Fodd bynnag, yn fy marn i, mae’r diagnosis gohiriedig a phriodoliad ei symptomau i ffactorau seicolegol neu seiciatrig wedi achosi pryder ac ansicrwydd diangen i Mr A.  Roedd hyn yn anghyfiawnder sylweddol iddo.”

““Rwy’n bryderus bod y Bwrdd Iechyd, ar lefel gomisiynu ac yn ei rinwedd ei hun, wedi methu â sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cydnabod ac yn cyfaddef yn llawn i raddau’r methiannau sy’n amlwg yn yr achos hwn ynghyd â’r effaith ar Mr A.

“Mae diffyg ymateb agored ac amserol i gŵyn Mr A nid yn unig yn gamweinyddiaeth ond yn golygu hefyd fod rhan bwysig o rôl fonitro’r Bwrdd Iechyd, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael trosolwg a chraffu trylwyr ar y corff a gomisiynwyd, wedi’i cholli.”

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymddiheuro i Mr A am y methiannau sydd wedi’u nodi yn ei hadroddiad, yn ogystal â chyfanswm o £6,835.38 o iawndal ariannol.

Yn ychwanegol, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd:

  • fel rhan o’i drefniadau comisiynu, gofyn i’r Ymddiriedolaeth sicrhau bod ei Dîm Niwrolegol yn trafod yr achos hwn mewn fforwm priodol fel rhan o ddysgu myfyriol a dysgu ehangach
  • adolygu ei ymateb i’r gŵyn hon i sefydlu pa wersi y gellir eu dysgu, yn enwedig mewn perthynas â phryd y byddai’n briodol ceisio cyngor clinigol annibynnol ar gŵyn, fel y nodir yn y canllawiau ‘Gweithio i Wella’
  • rhannu ei hadroddiad gyda Chadeirydd y Bwrdd Iechyd a’i Grŵp Diogelwch Cleifion a Llywodraethu Clinigol.

I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.