Dengys y data bod Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi derbyn dros 15,000 o gwynion yn 2021/22; mae hyn yn cyfateb i 4.9 o gwynion am bob 1,000 o drigolion Cymru. Rydym yn defnyddio’r math hwn o gynrychiolaeth i gymharu gwasanaethau cyhoeddus yn well mewn Awdurdodau Lleol sy’n amrywio’n fawr o ran maint. Gostyngodd nifer y cwynion yn ail hanner y flwyddyn, ond mae’r ffigur cyffredinol yn dangos bod trigolion yn cyflwyno cwynion ar y lefelau a welwyd cyn y pandemig.

Mae’r data yn dangos y cafodd tua 76% o gwynion eu cau o fewn y targed o 20 diwrnod gwaith. Roedd perfformiad ar gyfer chwarter olaf y flwyddyn yn dangos gwelliant, gan fynd yn ôl tuag at y lefelau a welwyd ar ddechrau’r flwyddyn. Yn ôl pob tebyg, mae perfformiad is yng nghanol y flwyddyn yn cynrychioli’r anawsterau a brofir gan bob corff cyhoeddus dros gyfnod y gaeaf.

Cadarnhaodd Awdurdodau Lleol yng Nghymru tua 46% o’r cwynion a gaewyd ganddynt yn 2021/22. Mae’r ffigur hwn wedi aros yn gyson uchel drwy gydol y flwyddyn – gyda chwynion am wastraff a sbwriel, sef tua thraean o’r holl gwynion, yn denu cyfradd cadarnhau o 70%.

Cyfeiriwyd dros 1,100 o gwynion yn ymwneud ag Awdurdodau Lleol atom yn ystod y flwyddyn, sy’n cynrychioli tua 8% o’r holl gwynion a gaewyd yn yr un cyfnod.

Mae nifer y cwynion a gyfeiriwyd yn rhoi cyd-destun i ddata cwynion yr Awdurdodau Lleol ac achosion am Awdurdodau Lleol yr ydym wedi ymdrin â nhw.

Gwnaethom gau 1,092 o gwynion am Awdurdodau Lleol yn 2021/22.* Byddai rhai o’r cwynion hynny wedi eu cyfeirio at y swyddfa yn ystod y chwarter; byddai eraill wedi dod i law cyn y cyfnod hwnnw.

Ymyrrom mewn 15% o’r achosion hynny, trwy argymell Datrysiad Cynnar** neu gadarnhau cwyn ar ôl ymchwiliad. Gan yr oedd mwyafrif helaeth o’r achosion a oedd yn weddill y tu hwnt i awdurdodaeth, y gyfradd ymyrryd wirioneddol mewn achosion y gallem eu hystyried yn 2021/22 oedd 99%. Mae hyn yn gyson â chwarteri blaenorol y flwyddyn ac yn awgrymu bod angen gwelliant pellach o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

“Rydym ni’n falch o allu dangos data ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan – ac am y tro cyntaf rydyn ni’n gallu gweld mwy o’r sefyllfa o ran cwynion. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i ni edrych y tu hwnt i’r pennawd ac ystyried beth mae’r perfformiad hwn yn ei olygu, i’r cyhoedd yn gyffredinol a sut maen nhw’n cael profiad o wasanaethau lleol, ac yn ein galluogi i olrhain sut gall y gwasanaethau hynny wella. “

Dywedodd Matthew Harris, Pennaeth Safonau Cwynion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

“Rwy’n credu bod cael y wybodaeth hon mewn un lle yn ysgogi tryloywder a chysondeb – ond yn fwy na hynny, mae’n caniatáu inni graffu go iawn ar beth mae’r niferoedd hyn yn ei golygu. Mae’r data hwn yn caniatáu i ni wneud mwy nag ystyried niferoedd yn unig, a dechrau defnyddio gwybodaeth i sbarduno gwelliannau o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus.”

Nodiadau

Crëwyd yr Awdurdod Safonau Cwynion (CSA) o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r Awdurdod Safonau Cwynion yw gweithio i gefnogi’r Cyrff Cyhoeddus yn ein hawdurdodaeth i ymdrin â chwynion yn effeithiol. Mae’r Awdurdod Safonau Cwynion yn cyflawni hyn drwy

  • osod polisïau a chanllawiau cwyno enghreifftiol
  • cynnig cyngor a darparu pecynnau hyfforddiant arbenigol
  • casglu a chyhoeddi data ar gwynion y mae Cyrff Cyhoeddus wedi ymdrin â nhw.

* Nid yw’r cyfanswm hwn yn cynnwys cwynion am Rentu Doeth Cymru.

** Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn teimlo bod camau y gallai’r sefydliad sy’n derbyn y gwyn eu cymryd i ddatrys y gwyn yn gyflym. Yn yr achosion hyn, byddwn yn cysylltu â’r sefydliad dan sylw i egluro’r hyn y credwn y gallan nhw ei wneud, a cheisio eu cael nhw i gytuno i fwrw ymlaen â hynny.

Ewch yma i weld yr ystadegau llawn sydd wedi eu cyhoeddi a papur briffio am y cyhoeddiad yma.