Roedd adroddiad yr Ombwdsmon a ystyriwyd gan Banel Dyfarnu Cymru yn ymwneud â thair cwyn am y Cyn Gynghorydd yr ymchwiliwyd iddynt yn ddiweddar gan y swyddfa.

Mewn gwrandawiad ddoe, canfu Panel Dyfarnu Cymru bod y Cyn Gynghorydd Dowson wedi torri Cod Ymddygiad Cyngor Sir Penfro ac wedi dwyn anfri ar ei swydd fel Cynghorydd ac ar Gyngor Sir Penfro drwy:

  • Ddatgan yn ffals yn gyhoeddus ar ddau achlysur bod cynghorydd arall wedi ymddwyn yn droseddol drwy rannu fideo pornograffig. Canfu Panel Dyfarnu Cymru hefyd fod yr ymddygiad hwn yn gyfystyr ag ymddygiad bwlio.
  • Datgan yn ffals ar gyfryngau cymdeithasol bod aelod o’r cyhoedd yn gyn-droseddwr oedd wedi’i garcharu am droseddau treisgar. Canfu Panel Dyfarnu Cymru hefyd fod yr ymddygiad hwn yn gyfystyr ag aflonyddu ar yr aelod o’r cyhoedd.
  • Postio gwybodaeth gamarweiniol am gwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Llywodraeth Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Awgrymu ar gyfryngau cymdeithasol bod aelod o’r cyhoedd ‘ar y gofrestr’, sy’n awgrymu cofrestr y troseddwyr rhyw.
  • Ceisio’n fwriadol i gamarwain yr Ombwdsmon drwy ddarparu neges cyfryngau cymdeithasol ffug yn ystod yr ymchwiliad.

Penderfynodd y Panel Dyfarnu y dylid anghymwyso’r Cyn Gynghorydd am 3 blynedd rhag bod neu ddod yn aelod o Gyngor Sir Penfro neu unrhyw awdurdod perthnasol arall. Mae gan y Cyn Gynghorydd hawl i geisio caniatâd yr Uchel Lys i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn croesawu canlyniad y gwrandawiad.  Roedd pob un o’r rhain yn gwynion difrifol iawn. Gallai’r honiadau a datganiadau ffug a wnaed gan y Cyn Gynghorydd Dowson fod yn niweidiol a gallant andwyo enw’r unigolion dan sylw a’r Cyngor.

Mae’r penderfyniad i anghymwyso’r Aelod am 3 blynedd yn adlewyrchu difrifoldeb ei ymddygiad.  Mae ein hymchwiliad a phenderfyniad Panel Dyfarnu Cymru yn dangos bod y gyfundrefn safonau moesegol mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn effeithiol o ran sicrhau bod y rhai sy’n torri’r safonau a ddisgwylir ganddynt yn cael eu dwyn i gyfrif er mwyn cynnal ymddiriedaeth a hyder mewn democratiaeth leol.

Dyma ail ganlyniad gwrandawiad i ymddygiad y Cyn Gynghorydd Dowson mewn misoedd. Ym mis Mehefin penderfynodd Cyngor Sir Penfro geryddu’r Aelod am ei sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol am y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys.  Rydym yn credu ei bod yn bwysig tynnu sylw’r cyhoedd at ganlyniadau’r gwrandawiadau hyn, fel bod gwersi’n cael eu dysgu a bod etholwyr lleol yn gwbl ymwybodol y bydd eu cynrychiolwyr etholedig yn cael eu dal i gyfrif am dorri’r Cod Ymddygiad.”

 

Nodiadau 

Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi pwerau statudol i ni ymchwilio i honiadau bod aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad. Bwriad y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau etholedig yw cynnal safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ac mae’n cynnwys y gofyniad na ddylai aelodau etholedig ddwyn anfri ar eu hawdurdod na’u swydd fel cynghorydd.

Pan fydd ein hymchwiliad yn canfod bod y dystiolaeth yn awgrymu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad a bod angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, gallwn gyfeirio’r mater naill ai at Banel Dyfarnu Cymru neu at bwyllgor safonau lleol i’w ystyried.

Pan fydd Panel Dyfarnu Cymru yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 12 mis neu anghymhwyso’r aelod rhag dal swydd am hyd at 5 mlynedd.

Pan fydd pwyllgor safonau yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 6 mis neu roi cerydd i’r aelod.  Pan na fydd aelod sy’n destun atgyfeiriad i bwyllgor safonau bellach yn dal swydd fel aelod, dim ond ceryddu’r aelod gall y pwyllgor safonau ei wneud.