Cwynion am wasanaethau cyhoeddus

Rôl gyntaf yr Ombwdsmon yw ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus.  Yn ogystal ag ymholiadau cyffredinol, yn ystod 2021/22, derbyniodd y swyddfa 2,726 o gwynion am wasanaethau cyhoeddus – 45% yn fwy na’r llynedd a 22% yn fwy nag yn 2019/20.  Er bod y swyddfa wedi derbyn mwy o gwynion am Fyrddau Iechyd, bu cynnydd sylweddol mewn cwynion am awdurdodau lleol a Chymdeithasau Tai.

Yn ystod y flwyddyn, caeodd yr Ombwdsmon y nifer uchaf erioed o gwynion am wasanaethau cyhoeddus.  Canfu fod rhywbeth wedi mynd o’i le a gwnaeth ymyrryd mewn 18% o’r achosion hynny – cyfran ychydig yn is na’r ddwy flynedd flaenorol (20%).  Yn bennaf, ymyrrodd yr Ombwdsmon drwy gynnig Datrysiad Cynnar, i sicrhau cyfiawnder yn gyflym heb fod angen cynnal ymchwiliad llawn.  Fodd bynnag, roedd 31% o’r ymyriadau yn dilyn ymchwiliad llawn – gwnaeth y swyddfa gadarnhau neu gadarnhau yn rhannol 77% o’r holl ymchwiliadau a gaewyd ganddi.

Yn ogystal, eleni cyhoeddodd yr Ombwdsmon 7 adroddiad diddordeb cyhoeddus ynglŷn â rhai o’r cwynion mwyaf difrifol am wasanaethau cyhoeddus, a lansiodd ganllawiau ac offer newydd i rannu canfyddiadau’r swyddfa a chefnogi dysgu ehangach.

Cwynion am y Cod Ymddygiad

Mae’r Ombwdsmon hefyd yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion am gynghorwyr lleol yn torri’r Cod Ymddygiad.  Yn 2021/22, derbyniodd 294 o gwynion o’r fath.  Roedd hyn yn llai na’r llynedd, ond 27% yn fwy nag yn y flwyddyn cyn hynny.  Roedd 58% o’r cwynion hynny yn ymwneud â chynghorwyr mewn Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned, ac roedd ychydig dros hanner yn ymwneud â’r modd yr oedd cynghorwyr yn hyrwyddo cydraddoldeb a pharch.

Nid yw’r swyddfa yn gwneud canfyddiadau terfynol am dorri’r Cod Ymddygiad.  Yn lle hynny, pan fydd ymchwiliadau yn canfod y pryderon mwyaf difrifol, caiff y rhain eu cyfeirio at Bwyllgor Safonau’r awdurdod lleol perthnasol, neu at Banel Dyfarnu Cymru.  Yn 2021/22, gwnaeth yr Ombwdsmon 20 o atgyfeiriadau o’r fath – 100% yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol a’r nifer uchaf o atgyfeiriadau ers 2012/13.

Gwaith Gwella

Mae gan yr Ombwdsmon rôl bwysig o ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus.   Er gwaethaf y pwysau ar y swyddfa oherwydd y cynnydd sylweddol yn y llwyth achosion, parhaodd y gwaith gwella hwn yn ystod y flwyddyn.

Mae cyfanswm o 39 o gyrff cyhoeddus bellach yn cydymffurfio â’r Safonau Cwynion a osodwyd gan yr Ombwdsmon gan gynnwys pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd yng Nghymru.

Gall y swyddfa hefyd ymchwilio ar liwt yr Ombwdsmon (sef heb fod wedi derbyn cwyn) ac yn 2021/22, cyhoeddodd ganlyniadau’r ymchwiliad ar ei liwt ei hun cyntaf, i asesiadau digartrefedd cynghorau lleol.

2021/22 oedd blwyddyn olaf Nick Bennett fel Ombwdsmon, swydd y bu ynddi ers 2014.  Croesawodd y swyddfa Michelle Morris fel Ombwdsmon o fis Ebrill 2022.

Wrth wneud sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle:

“Wrth i mi ddechrau fy swydd fel Ombwdsmon, hoffwn dalu teyrnged i Nick Bennett, fy rhagflaenydd, ac i’r staff yn y swyddfa am eu gwaith caled wrth iddynt barhau i ddarparu gwasanaethau drwy’r hyn sydd heb os wedi bod yn ddwy flynedd fwyaf heriol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i weithio dan bwysau sylweddol.  Maent wedi parhau i weithio gyda ni i sicrhau y gallwn ymdrin yn briodol â materion pan fyddant yn mynd o chwith a bod pob un ohonom yn dysgu gwersi o’r profiad hwnnw.  Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau y deuant yn gryfach ar ôl y pandemig a bod defnyddwyr gwasanaeth yn parhau i dderbyn iawndal pan fydd pethau’n mynd o chwith.”

Ewch yma i ddarllen yr adroddiad llawn a Chrynodeb Gweithredol.

Ewch yma i wylio ein fideo Ein Hadroddiad Blynyddol mewn 7 munud.