Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl cael cwyn gan Mrs X am y gefnogaeth a ddarparwyd i’w chwaer, Ms Y, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Roedd Ms Y, oedd yn oedolyn ag anableddau dysgu a hanes o ddibyniaeth ar alcohol, wedi cael ei symud gan y Cyngor i lety byw â chymorth, a oedd yn cael ei reoli ar ran y Cyngor gan ddarparwr dan gontract. Roedd Mrs X yn anfodlon bod y darparwr wedi oedi cyn rhoi gwybod i’r Cyngor am bryderon cynyddol am ymddygiad Ms Y, a phan gysylltodd y darparwr â’r Cyngor o’r diwedd nid oedd yn gallu cael gafael ar gymorth i Ms Y. Yn anffodus, bu farw Ms Y ym mis Ebrill 2020.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn. Canfu nad oedd y darparwr wedi uwchgyfeirio materion i’r Cyngor yn ddigon cyflym ac nad oedd y Cyngor wedi rheoli gofal Ms Y yn briodol pan uwchgyfeiriwyd y mater ymhen yr hir a’r hwyr. Canfu hefyd nad oedd y Cyngor wedi edrych ar y cyfleoedd i rannu gwybodaeth â Mrs X am gyflwr ei chwaer. Yn olaf, canfu’r Ombwdsmon ddiffygion hefyd yn y modd yr oedd y Cyngor wedi delio â chwyn Mrs X am ofal ei chwaer.  Nid oedd casgliadau ymchwilydd annibynnol wedi cael eu cynnwys yn llawn yng nghanfyddiadau’r ymchwiliad, na’u rhannu â Mrs X.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Michelle Morris:

“Mae hwn yn achos trist o anghyfiawnder difrifol ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad i’r teulu.

Pan fu farw Ms Y, rydym yn cydnabod bod pandemig COVID-19 eisoes wedi rhoi pwysau difrifol ar wasanaethau’r Cyngor.

Serch hynny, o gofio bod Ms Y yn oedolyn agored i niwed gyda hanes o fod yn ddibynnol ar alcohol, gwnaethom benderfynu y dylai pryderon am ei chyflwr fod wedi cael eu huwchgyfeirio’n gynt, a dylai’r Cyngor fod wedi cynnig cymorth pan uwchgyfeiriwyd y materion o’r diwedd.

Mae’n hadroddiad yn ei gwneud yn glir nad oes modd i ni wybod a fyddai ymyriadau cynt gan y Cyngor wedi newid y canlyniad trist i Ms Y. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ei gwneud yn glir bod nifer o gyfleoedd i ymyrryd wedi cael eu colli.

Un o’r cyfleoedd hynny oedd sicrhau bod Ms Y wedi cael pob cyfle i gael cefnogaeth gan ei theulu. Yn anffodus, gan nad oedd y Cyngor wedi gofyn am gydsyniad Ms Y ynghylch rhannu gwybodaeth â’i theulu, gwnaethom ganfod nad oedd ei chwaer yn ymwybodol o gyflwr Ms Y ac nad oedd yn gallu rhoi’r gefnogaeth honno.

Roeddem hefyd yn bryderus ynghylch sut cafodd cwyn Mrs X i’r Cyngor ei hystyried a’i rheoli. Mae’r methiannau a nodwyd gennym yn y broses honno’n bwrw amheuaeth ar gadernid yr ymchwiliad a’i ganfyddiadau.

Er nad oedd y Cyngor yn darparu gofal o ddydd i ddydd i Ms Y yn uniongyrchol, fel y corff oedd â chyfrifoldeb cyffredinol dros gyflawni ei swyddogaethau gofal cymdeithasol, roedd y Cyngor yn gyfrifol am y methiannau.

Rydym yn croesawu’r ffaith bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bellach wedi derbyn y canfyddiadau a’r casgliadau hyn ac wedi cytuno i roi’r argymhellion ar waith yn llawn.”

Argymhellodd yr Ombwdsmon bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn anfon ymddiheuriad ystyrlon at Mrs X am y diffygion sydd wedi’u nodi yn yr Adroddiad ac

  • yn rhoi’r holl gamau a nodwyd yn ystod ymchwiliad y Cyngor i’r gŵyn wreiddiol gan Mrs X ar waith
  • yn atgoffa’r rhai y mae’n dyfarnu contract iddynt i gynnal ymchwiliadau annibynnol ar ei ran i sicrhau bod unrhyw ganfyddiadau neu feirniadaeth o’r gwasanaeth a ddarparwyd i gleient yn cael eu hadlewyrchu yn eu hadroddiad a’u canfyddiadau ac nad ydynt yn cael eu rhannu ar wahân â’r awdurdod
  • yn atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd monitro contractau’n rheolaidd mewn perthynas â’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol gan ddarparwyr trydydd parti, er mwyn sicrhau ymyrraeth briodol os oes pryderon ynghylch y ddarpariaeth o wasanaeth neu newid yn anghenion cleient.

I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch yma.