“Ymchwiliodd fy swyddfa i gŵyn a oedd yn nodi bod y Cynghorydd yn gysylltiedig â digwyddiad gydag un o gontractwyr y Cyngor, ac yn dilyn hynny bu ymchwiliad gan yr Heddlu. Wedyn, plediodd yr Aelod yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol drwy yrru’n wyllt ac yn bryfoclyd.”

“Fe wnaethom gyfeirio un achos at Banel Dyfarnu Cymru. Rôl Panel Dyfarnu Cymru yw ystyried yn annibynnol y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ystod ymchwiliad a phenderfynu a yw’r aelod etholedig wedi torri’r Cod Ymddygiad.”

Canfu’r Panel Dyfarnu fod y Cynghorydd Vaughan wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad drwy ddwyn anfri ar ei swydd fel Cynghorydd.  Penderfynodd y Panel y dylai gael ei gwahardd am 12 mis rhag dal swydd fel Cynghorydd.”

“Gobeithio y caiff gwersi eu dysgu o’r achos hwn.  Ar y nodyn hwnnw, mae’n arbennig o ddefnyddiol bod y Panel hefyd yn argymell y dylai holl Gynghorwyr y Cyngor Cymuned a’r Clerc fynychu hyfforddiant ar y Cod i sicrhau eu bod yn deall ei ddarpariaethau, gan gynnwys paragraff 6(1)(b).”

Nodiadau

Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi pwerau statudol i ni i ymchwilio i honiadau bod aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad.

Bwriad y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau etholedig yw cynnal safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ac mae’n cynnwys y gofyniad na ddylai aelodau etholedig ddwyn anfri ar eu hawdurdod na’u swydd fel cynghorydd.

Os bydd ein hymchwiliad yn canfod bod y dystiolaeth yn awgrymu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad a bod angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, gallwn gyfeirio’r mater naill ai at Banel Dyfarnu Cymru neu at bwyllgor safonau lleol i’w ystyried.

Pan fydd Panel Dyfarnu Cymru yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 12 mis neu anghymhwyso’r aelod rhag dal swydd am hyd at 5 mlynedd.

Pan fydd pwyllgor safonau yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 6 mis neu roi cerydd i’r aelod.  Pan na fydd aelod sy’n destun atgyfeiriad i bwyllgor safonau bellach yn dal swydd fel aelod, dim ond ceryddu’r aelod gall y pwyllgor safonau ei wneud.