Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod ni unwaith eto wedi cyflawni gwobr lefel arian fel Cyflogwr Chwarae Teg yn 2022.

Cefndir

Yn OGCC, rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.  Yn 2021/22, gwnaethom barhau i weithio gyda Chwarae Teg dan y cynllun Cyflogwr Chwarae Teg. Elusen Gymraeg yw Chwarae Teg sy’n arwain ar gydraddoldeb rhywiol, gan gynnwys yn y gweithle. Mae ei gynllun Cyflogwr Chwarae Teg yn meincnodi sefydliadau gan ddefnyddio pedair lefel i fesur eu cydraddoldeb rhywiol: efydd, arian, aur a phlatinwm.

Gwyddom y gall canlyniadau recriwtio unigol, mewn sefydliad cymharol fach, wneud gwahaniaeth mawr i bob golwg. Mae mwy o lawer o ferched na dynion yn ymgeisio’n gyson am ein swyddi. Mae gennym hefyd ystod o bolisïau a chyfleoedd hyfforddi yn eu lle i ddileu unrhyw rwystrau i gyflogi neu ddatblygiad gyrfaol merched yn ein gweithle.

Canfyddiadau

Cynhaliodd Chwarae Teg eu hasesiad ym mis Mawrth 2022. Fel rhan o’r asesiad, gwnaethant ystyried ein polisïau a gweithdrefnau, yn ogystal â chynnal arolwg o’n staff.

Ymatebodd 84% o’n staff i’r arolwg. Amlygodd y raddfa ymateb hon ymrwymiad da gan ein staff, fel yn y blynyddoedd blaenorol. Rydym yn ddiolchgar iawn i bob un a gymerodd ran am eu sylwadau.

Roedd yr asesiad yn cynnwys 10 maes o’n gwaith. Eleni, rydym unwaith eto wedi cyflawni gwobr lefel arian fel Cyflogwr Chwarae Teg, gan sgorio yn uwch na sgôr cyfartaledd ein sector ym mhob maes a aseswyd:

  • Amrywiaeth busnes: 83.57 (Aur)
  • Gweithio’n hyblyg: 83.17 (Arian)
  • Cyfathrebu mewnol: 79.97 (Arian)
  • Perthnasau yn y gweithle: 83.67 (Arian)
  • Dysgu a datblygu: 82.66 (Arian)
  • Recriwtio a dethol: 79.64 (Arian)
  • Rheoli perfformiad: 81.45 (Aur)
  • Diwylliant sefydliadol: 82.06 (Arian)
  • Gwobrwyo a chydnabod: 83.6 (Aur)

Wrth wobrwyo’r lefel arian i ni, dywedodd Chwarae Teg:

“Mae hyn yn llwyddiant mawr ac yn dangos ymrwymiad y busnes i wneud gwahaniaeth i recriwtio, cadw a datblygu menywod sy’n gweithio. Mae hefyd yn dangos cyfraniad parhaus at ymdrechion ehangach i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, i sicrhau bod yr economi yn elwa o gynrychiolaeth amrywiol ar bob lefel y gweithlu.”

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn seiliedig ar ganlyniadau’r asesiad, adnabu Chwarae Teg sawl maes sydd angen ein sylw:

  • cyfathrebu ar draws y sefydliad
  • amrywiaeth y gweithlu
  • recriwtio a dethol
  • dilyniant gyrfa.

Rydym yn bwriadu ystyried y meysydd hyn, yn ogystal ag ymgynghoriadau gyda staff yn ystod yr Haf, cyn paratoi cynllun gweithredu manwl.