Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl derbyn cwyn gan Ms B (di-enw). Cwynodd Ms B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â darparu gwasanaethau seicolegol priodol i Mr C, ac o ganlyniad, wedi methu â diwallu ei anghenion clinigol.

Canfu’r adroddiad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chymryd camau prydlon a gwneud trefniadau i ddiwallu anghenion clinigol Mr C ar ôl cau gwasanaeth seicolegol.

Er i’r Bwrdd Iechyd ganfod nad oedd anghenion Mr C yn cael eu diwallu, methodd â rhoi unrhyw gynllun ar waith i ddiwallu’r anghenion hynny.

O ganlyniad, canfu’r adroddiad fod Ms B, fel prif ofalwr Mr C, wedi cael ei gadael heb gefnogaeth ddigonol i reoli ei ymddygiadau heriol. Roedd gohebu’r Bwrdd Iechyd â Ms B yn annigonol, a adawodd Ms B yn anwybodus ar adeg pan fu ymddygiadau heriol Mr C wedi’u cymhlethu ymhellach gan effaith cyfyngiadau symud COVID-19.

Yn ychwanegol, roedd ymatebion y Bwrdd Iechyd i gwynion Ms B yn annigonol ac nid oeddent yn unol â’r rheoliadau perthnasol.

Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth o gynllunio wrth gefn pe bai’r gwasanaeth seicolegol yn dod i ben, a olygai nad oedd y Bwrdd Iechyd na’r cleifion a oedd yn derbyn y gwasanaeth seicolegol yn barod ar gyfer y diwedd sydyn.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Dyma achos o destun pryder mawr lle’r oedd mam yn teimlo “bod ei theulu wedi’i ddinistrio” a’i bod wedi cael ei gadael mewn sefyllfa “lle’r oedd ar fin rhoi Mr C mewn gofal oherwydd y diffyg cefnogaeth” gan y Bwrdd Iechyd.

“Roedd rhoi diwedd ar y Gwasanaeth Arbenigol wedi gadael blwch enfawr ym mywyd Ms B ac ym mywydau’r holl deuluoedd â phlant ag anableddau dysgu yn ardal y Bwrdd Iechyd. Nid yw Ms B am i deuluoedd eraill brofi’r hyn yr oedd hi a’i theulu wedi’i brofi, ac rwy’n rhannu’r pryder hwn”.

Mae’r Ombwdsmon wedi gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys bod y Bwrdd Iechyd:

  • Darparu ymddiheuriadau i Ms B am y methiannau clinigol, cyfathrebu ac ymdrin â chwynion a nodwyd yn ei adroddiad.
  • Atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd ymchwilio i gwynion a chreu ymatebion i gwynion yn unol â rheoliadau a chanllawiau cwynion perthnasol.
  • Ymgymryd ag adolygiad i nodi unrhyw gleifion eraill ag anghenion clinigol sydd heb eu diwallu o ganlyniad i gau’r Gwasanaeth Arbenigol, a sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i ddiwallu’r anghenion hynny naill ai gan y Bwrdd Iechyd neu asiantaethau eraill.
  • Comisiynu a chwblhau ei adolygiad arfaethedig o wasanaethau seicolegol plant y Bwrdd Iechyd, ac adrodd y canfyddiadau yn ôl i’r Ombwdsmon.

 I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma.