Gadawyd person ifanc oedd yn gadael gofal heb gefnogaeth a chymorth digonol ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fethu â chynllunio’n effeithiol iddi adael gofal, yn ôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl cael cwyn gan ofalydd maeth Ms G, Ms F, nad oedd yr awdurdod lleol wedi rheoli trefniant Ms G yn ddigonol, tra’r oedd yn byw gyda hi. Cwynodd Ms F nad oedd y Cyngor, drwy fethu ag egluro ei statws fel gofalwr maeth neu roi unrhyw gefnogaeth yn ei lle i gynnal y trefniant hwnnw, wedi rhoi digon o gefnogaeth i Ms G ar ôl iddi adael ei ofal.

Canfu’r Ombwdsmon fod methiant y Cyngor i gynllunio’n effeithiol ar gyfer ymadawiad Ms G o ofal yn golygu nad oedd wedi cael cyfle i gael trefniant byw trosiannol gydag adnoddau priodol, a allai fod wedi gwella ei chyfleoedd mewn bywyd. Nododd hefyd fod methiannau’r Cyngor wedi achosi i Ms F ddioddef caledi ariannol, a oedd yn rhoi pwysau diangen ar ei pherthynas â’i phlentyn maeth.

Canfu hefyd fod y Cyngor wedi methu â rhoi sylw dyledus i hawl Ms F a Ms G i barch at fywyd preifat a theuluol, eu cartref a’u gohebiaeth fel y nodir yn Erthygl 8 Deddf Hawliau Dynol 1998.

Ar ben hynny, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Cyngor, wrth ymateb i gŵyn wreiddiol Ms F, wedi methu â chadw at ganllawiau ynghylch delio â chwynion sy’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd nad oedd yr ymchwiliad i gŵyn gychwynnol Ms F wedi cael ei gydbwyso a rhoddodd yr argraff o fod yn “unochrog”.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Mae hwn yn achos dychrynllyd lle’r oedd catalog o fethiannau gan yr awdurdod lleol yn golygu bod person ifanc a oedd yn gadael gofal, a’r gofalwr maeth, yn mynd heb y gefnogaeth yr oedd ganddyn nhw hawl iddi.

“Mae’r methiannau hyn yn fwy siomedig fyth o ystyried bregusrwydd parhaus Ms G, ei statws gadael gofal a’r egwyddorion ymarfer y disgwylir i Awdurdodau Lleol eu dilyn wrth wneud penderfyniadau am bobl ifanc sy’n gadael gofal.

“Methwyd â rhoi trefniant clir ar waith ar gyfer symud y person ifanc hwn o ofal a phontio i fod yn oedolyn, sy’n esgeulustod clir o ddyletswydd gofal y Cyngor. Ar ben hynny, roedd y dogfennau cysylltiedig yn ddiffygiol, a deliwyd â chŵyn wreiddiol Ms F yn wael, a oedd ond yn ychwanegu at y straen a’r pryder a ddioddefodd Ms G a Ms F.”

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymddiheuro i Ms F a Ms G am y methiannau a nodwyd. Gofynnodd hefyd i’r cyngor dalu £8500 yr un i Ms F a Ms G i gydnabod effaith y methiannau ar eu bywydau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno ar sawl argymhelliad, gan gynnwys:

  • Adolygiad llawn o’r dogfennau cynllunio llwybr ar gyfer pawb sy’n gadael gofal.
  • Darparu hyfforddiant cynllunio llwybr i’r holl staff perthnasol.
  • Darparu hyfforddiant ar ystyriaethau hawliau dynol a’u goblygiadau wrth weithio gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal.
  • Adolygiad llawn o’i ddull o ymdrin â chwynion, gan gynnwys comisiynu Ymchwilwyr Annibynnol a rheoli ansawdd wrth graffu ar adroddiadau a gomisiynwyd.

Mae’r Ombwdsmon yn falch o nodi bod y Cyngor wedi dweud y bydd yn parhau i ddarparu cefnogaeth i Ms G.

I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma.