Achosodd Fwrdd iechyd “anghyfiawnder” i wyth claf a fu’n dioddef gan ganser y prostad ar ôl methu â monitro eu gofal a’u triniaeth yn briodol, yn ôl adroddiad eang newydd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ôl i adroddiad i achos claf a fu’n dioddef gan ganser y prostad godi “amheuaeth resymol” bod digwyddiadau pellach o fethiant gwasanaeth a chamweinyddu yn gysylltiedig â chleifion eraill ar y rhestr aros yn ystod mis Awst 2019.

Defnyddiodd yr Ombwdsmon ei bwerau ymchwilio “ar ei liwt ei hun” o dan adran 4 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 i ystyried a oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhagori ar yr amser targed triniaethau ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser yn achosion 16 claf a oedd yn aros am brostadectomi ym mis Awst 2019.

Canfu ei ymchwiliad, ar yr adeg dan sylw, safbwynt polisi Cymru oedd mai dim ond achosion cleifion a gafodd eu trin yng Nghymru oedd yn cael eu hadrodd yn erbyn targedau amser aros am driniaeth canser yng Nghymru. Felly, dim ond “adroddiadau toramod” a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Iechyd a chynhaliodd adolygiadau niwed ar gyfer y cleifion yr oedd yn eu trin. Nid oedd y broses hon yn berthnasol i gleifion a atgyfeiriwyd am driniaeth yn Lloegr.

O’r 16 claf ar y rhestr aros ym mis Awst 2019, atgyfeiriwyd wyth i Loegr i gael triniaeth. Canfu adroddiad yr Ombwdsmon, pe bai’r cleifion hyn wedi cael eu trin yng Nghymru, byddai’r achosion o dorri’r amserlenni targed wedi’u nodi yn achosion pob un o’r wyth claf gan eu bod wedi aros am driniaeth yn hwy na’r targedau 62 a 31 diwrnod am achosion canser amheuaeth frys ac amheuaeth ddifrys.

Mewn cyferbyniad, roedd achos pedwar claf ar y rhestr aros a gafodd eu trin gan y Bwrdd Iechyd yng Nghymru wedi rhagori ar y targed amser ar gyfer aros am driniaeth canser. Adroddwyd am yr achosion hyn o dorri’r amserlenni targed, a chwblhawyd adolygiadau niwed ar gyfer y pedwar claf.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â monitro’r broses o ddarparu gofal a thriniaeth i bob claf fel y dylai fod wedi gwneud o dan ei drefniadau contractio a chomisiynu.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Er bod safbwynt polisi Cymru ar y pryd yn golygu nad oedd unrhyw ofyniad i gynhyrchu adroddiad toramod i Lywodraeth Cymru na chynnal adolygiadau niwed i gleifion a gafodd eu trin yn Lloegr, ni ddylai lleoliad daearyddol y driniaeth fod wedi gadael yr wyth claf hyn mewn sefyllfa lle gwrthodwyd y broses adolygu niwed iddynt am eu bod wedi cael eu trin y tu allan i Gymru.

“Ni waeth beth fo safbwynt polisi Cymru ar y pryd, roedd yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd fonitro gofal a thriniaeth ei gleifion yn briodol o dan ei drefniadau comisiynu a chontractio.  Dylai hefyd fod wedi ystyried effaith yr oedi cyn triniaeth yn yr achosion hyn.  Roedd y methiannau hyn yn gyfystyr â chamweinyddu.

“Mae’r Llwybr Canser Sengl, sydd wedi disodli’r holl dargedau canser blaenorol, wedi mynd i’r afael ag anghysondeb y dull blaenorol. Bellach, rhaid cynnwys pob claf sy’n cael eu cyfeirio o ofal eilaidd am driniaeth y tu allan i Gymru ar gyfer eu triniaeth ganser mewn trefniadau monitro amseroedd aros am driniaeth canser. Hefyd, dylai pob claf na chaiff ei drin o fewn yr amserlenni targed gael adroddiad toramod mewnol wedi’i gwblhau

“I unioni’r anghyfiawnder i’r wyth claf y gwnes i ymchwilio i’w achosion, argymhellais y dylai’r Bwrdd Iechyd gynnal adolygiad niwed i bob claf er mwyn eu dychwelyd i’r sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe baent wedi cael eu trin yng Nghymru.  Argymhellais hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd adolygu ei broses adolygu niwed i sicrhau ei fod yn unol â gofynion y Llwybr Canser Sengl.

“Rwyf bellach wedi adrodd am wasanaeth wroleg y Bwrdd Iechyd sawl gwaith, ac rwy’n pryderu bod materion yn ymwneud â chapasiti a chynllunio olyniaeth o fewn yr adran wroleg yn ymddangos yn hirsefydlog.

“Felly, rwyf wedi argymell bod y Bwrdd Iechyd yn cyfeirio’r adroddiad at ei Fwrdd i ystyried capasiti a chynllunio olyniaeth ar gyfer yr adran wroleg.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau adroddiad yr Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu ei argymhellion.

I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma.