Cyhoeddwyd adroddiad thematig newydd yn arddangos arfer da ar draws sector cyhoeddus Cymru gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
At Eich Gwasanaeth: Y Canllaw Arfer Da yw’r pumed adroddiad thematig a gyhoeddwyd gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n canmol adroddiadau blaenorol a edrychodd ar ofal y tu allan i oriau yn ysbytai Cymru, ‘trefniadau rhyddhau o’r ysbyty’, ‘delion wael â chwynion’ a rheoli cofnodion yn wael.
Yn wahanol i’r adroddiadau eraill a edrychodd ar arfer gwael gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adroddiad thematig diweddaraf yn canolbwyntio ar enghreifftiau cadarnhaol o arfer da, yn ystod cyfnod lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu pwysau digynsail oherwydd y pandemig.
Gwna’r adroddiad pum prif argymhelliad:
- Gwasanaethau cyhoeddus i ganolbwyntio ar adnabod a lledu arfer da yn eu sefydliadau, gan ymgymryd â chamau gweithredu ar lefelau strategol a gweithredol.
- Sefydliadau i wneud arfer da a rhannu gwybodaeth yn eitem safonol ar yr agenda mewn cyfarfodydd adrannol/tîm.
- Gwasanaethau cyhoeddus i ystyried ymgorffori gwybodaeth o goflyfrau’r Ombwdsmon/”Ein Canfyddiadau” yn eu hyfforddiant ar gyfer staff sy’n darparu gwasanaeth ac ymdrin â chwynion.
- Gwasanaethau Cyhoeddus i fanteisio ar y cynnig i gael hyfforddiant ymdrin â chwynion gan dîm Safonau Cwynion yr Ombwdsmon.
- Ystyried creu porth ar gyfer rhannu arfer da ar draws sectorau.
Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Bydd ôl-effeithiau anochel COVID-19 i’w teimlo gan Gymru, a gweddill y byd, am nifer o flynyddoedd. Wrth i gyllidebau gael eu tynhau a galwadau am wasanaethau gynyddu, mae’n bwysicach nag erioed bod darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus yn effeithiol ac yn cynnig gwerth am arian.
“Mae’r amser wedi dod imi ehangu fy Agenda Gwella i rannu nid yn unig gwersi i’w dysgu pan fydd pethau wedi mynd o’u lle, ond hefyd arfer da a nodwyd yn fy ngwaith achos.
“Mae’n bleser mawr dod o hyd i enghreifftiau o arfer da yn yr achosion a gaf, ac rwy’n awyddus i sicrhau fy mod yn rhannu’r enghreifftiau cadarnhaol hyn, hefyd.”
I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.