Mae ymchwiliad Ombwdsmon wedi datgelu y bu farw claf a fu’n dioddef gan ganser heb ofal diwedd oes addas yn dilyn llawdriniaeth.

Cwynodd Mrs W (di-enw) am y gofal a roddwyd i’w gŵr, Mr W (di-enw), gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn dilyn ei lawdriniaeth canser yr oesoffagws (sy’n ymwneud â’r bibell fwyd rhwng y gwddf a’r stumog) ym mis Chwefror 2018.

Dywedodd Mrs W na wnaeth Mr W wella ar ôl ei lawdriniaeth mewn gwirionedd; roedd yn cael trafferth bwyta ac aeth yn denau, yn methu symud, yn anymataliol ac yn isel. Er bod cymorth lliniarol wedi’i drefnu yn y pen draw, dim ond pythefnos cyn i Mr W farw ym mis Medi 2018 y gwnaethpwyd hynny.

O ganlyniad, roedd cymhorthion gofal lliniarol perthnasol, fel comôd a gwely ysbyty, yn dal wrthi’n cael eu danfon a’u gosod ac ni chafodd Mr W fudd ohonynt erioed.

Dywedodd Mrs W fod gweld dirywiad araf a marwolaeth ei gŵr fel ei unig ofalwr a heb gyngor na chefnogaeth wedi ei gadael gyda theimladau o ofn a diymadferthedd pur a fydd yn aros gyda hi am byth. Dywedodd na allai ddeall pam na chafodd Mr W y cymorth a’r gefnogaeth a oedd yn eu haeddu, ac a oedd eu hangen arno.

Canfu’r Ombwdsmon y bu methiannau cyfathrebu wrth esbonio’r diagnosis, y prognosis a’r canlyniadau tebygol i’r claf, ynghyd â methiannau wrth ddarparu cymorth seicogymdeithasol a chymorth dietegol arbenigol cyn, yn ystod ac ar ôl ei lawdriniaeth.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu gofal a chymorth lliniarol digonol a phriodol ar ôl ryddhau i’r claf a’i deulu yn dilyn ei lawdriniaeth aflwyddiannus, a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymdrin yn brydlon â’r ceisiadau gan deulu’r claf am gyswllt a chymorth.

Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cytuno i sawl argymhelliad gan gynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs W a rhoi hyfforddiant gorfodol i bob meddyg a nyrs sy’n trin ac yn rheoli cleifion sy’n dioddef gan ganser gastroberfeddol. Bydd yr hyfforddiant yn ymwneud ag uwch sgiliau cyfathrebu a’r angen i gynnwys y claf mewn gofal.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r achos hwn yn un hynod frawychus lle bu farw dyn heb ofal diwedd oes addas. Yn anffodus, credaf fod hawliau dynol Mr a Mrs W yn debygol o fod wedi’u cyfaddawdu.

“Ni roddwyd amser i Mr a Mrs W baratoi am ei ganlyniad terfynol, yn feddyliol a gyda cymhorthion a chefnogaeth gofal lliniarol addas. Effeithiodd hyn ar hawliau Mr W fel unigolyn, ac ar ei hawliau ef a Mrs W fel rhan o fywyd teuluol ehangach.

“Mae hyn yn bwysig yn enwedig ar ddiwedd oes rhywun ac felly mae’r methiannau a nodwyd yn cynrychioli anghyfiawnder difrifol i Mr a Mrs W.

“Mae’r diffyg cefnogaeth a roddwyd i Mrs W wedi’i gadael â phoen emosiynol annychmygol ac ni allaf ond gobeithio y bydd fy ymchwiliad yn dod â rhywfaint o gysur iddi.”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Matt Aplin, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, trwy anfon e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru neu ffonio 07957 440846.

I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.