Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymchwiliad ‘ar ei liwt ei hun’ i weinyddu’r broses adolygu digartrefedd gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar dri awdurdod lleol – Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dywedodd yr Ombwdsmon, Nick Bennett, ei fod am achub ar y cyfle i ddefnyddio ei bwerau ymchwilio newydd i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwneud newid ‘amser real’ i bobl Cymru.

Bydd canfyddiadau’r ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r ymchwiliad, ewch yma.