Bu 2020 yn flwyddyn andros o anodd ar gyfer holl wasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys OGCC.

Mae’r pandemig byd-eang wedi dod â heriau personol a proffesiynol enfawr ac wedi newid ein ffordd o weithio yn sylfaenol.

Serch hynny, ceir rhai rhesymau i lonni’r galon.

Mae gweithio gartref wedi golygu ffordd hollol newydd o ddarparu ein gwasanaeth, ac rwy’n hynod falch o’r ffordd y mae fy staff wedi addasu i amgylchiadau mor anodd. Yn benodol, mae fy adran TG wedi gweithio’n ddiflino drwy newid radical na ellir mo’i dychmygu bron, ac rydym bellach yn sefydliad mwy hyblyg ac addasol o ganlyniad.

Rydym hefyd wedi gweithio yn galed iawn o ran y ddarpariaeth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant. Gwnaed ymdrech aruthrol gan ein tîm ymroddedig o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl i gynnig cefnogaeth i’n gweithlu, ac yn fwy cyffredinol, mae staff wedi cefnogi ei gilydd wrth i bob un ohonynt wynebu eu heriau eu hunain.  Mae natur COVID yn golygu bod y pandemig wedi effeithio ar bob un o’m staff ar ryw adeg ac ni ellir bychanu effaith seicolegol y ffordd newydd rhyfedd hon o fyw.

O ran cwynion, mae fy swyddfa wedi ceisio parhau i fod yn sensitif i’r pwysau a roddir ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd wedi gwahardd cwynion byw dros dro ar brydiau yn erbyn y cyrff hynny sydd o dan straen penodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod fy swyddfa yn dal i gynnig ei gwasanaeth craidd a darparu cyfiawnder i ddefnyddwyr gwasanaeth cyhoeddus ledled Cymru.

Mae meysydd newydd cyffrous wedi parhau i ddatblygu er gwaethaf rhwystrau amlwg. Cyhoeddwyd egwyddorion gan ein Hawdurdod Safonau Cwynion sydd newydd ei ffurfio,  a bydd yn mynd ati i fonitro a chyhoeddi data cwynion ar gyfer cyrff cyhoeddus. Dylai hyn fod o gymorth i dynnu sylw at faterion yn ymwneud â chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ac am y tro cyntaf erioed, darparu data cwynion cymaradwy.

Mae staff CSA bellach wedi cynnal mwy na 50 sesiwn hyfforddi i staff cyrff cyhoeddus, gyda mwy o sesiynau wedi’u trefnu ar gyfer 2021.

Ym mis Medi, roeddwn yn falch iawn o dderbyn cefnogaeth Michael Sheen ar gyfer ein hymgynghoriad i ymchwiliad ar ei liwt ei hun i ddigartrefedd yng Nghymru. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn y flwyddyn nesaf.

Ac wrth gwrs, rydym wedi parhau i fod yn atebol gyda sesiynau craffu cadarnhaol gyda Phwyllgor Cyllid y Senedd a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Ni allaf ond gobeithio y bydd 2021 yn flwyddyn well i bob un ohonom. Y brechlyn yw dechrau’r diwedd i’r firws dychrynllyd hwn. Yn ein blaen!

Nick Bennett