Bwrdd Iechyd Gogledd Cymru Yn Destun Ymchwiliad Ar Ôl Torri Rheol Atgyfeirio

Mae Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ad-dalu miloedd o bunnoedd i glaf sy’n dioddef gan ganser y prostad ar ôl iddo gael ei adael i aros am fwy na thri mis am driniaeth frys.

Cwynodd Mr Y (di-enw) fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi mynd dros y targed o ran yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar gyfer cael triniaeth frys mewn cysylltiad â chanser y prostad. Oherwydd yr oedi a’r effaith bosibl ar ei iechyd, ceisiodd driniaeth breifat.

Cyfeiriwyd Mr Y yn gyntaf ym mis Mai 2019 a dylai fod wedi cael triniaeth bendant ar gyfer ei ganser o fewn 62 diwrnod.  O ystyried y dywedwyd wrth Mr Y ar 13 Awst mai tri mis oedd yr amseroedd aros am driniaeth, byddai’r Bwrdd Iechyd wedi methu’r targed 62-diwrnod o 106 diwrnod.

Ceisiodd Mr Y driniaeth breifat a chafodd lawdriniaeth ddiwedd mis Awst 2019.

Datgelodd yr ymchwiliad gan Nick Bennett, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, bod yna o leiaf 16 claf arall a allai fod wedi bod yn aros mwy na’r targed 62-diwrnod am driniaeth ym mis Awst 2019. Erbyn hyn, mae wedi lansio ymchwiliad ‘ar ei liwt ei hun’ i’r mater, y cyntaf o’i fath o dan y pwerau newydd a roddwyd i’w swyddfa gan y Senedd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i dalu iawndal o £8,171 i Mr Y i gynrychioli cost ei driniaeth breifat, yn ogystal â rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig truthgar iddo.  Ymhellach i hyn, bydd y Bwrdd Iechyd yn sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu’r gwasanaeth Wroleg i adnabod meysydd lle gall wella’r ffordd y mae’n darparu’r gwasanaeth.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: 

“Mae’r adroddiad hwn yn un hynod bryderus.  Ni ellir tanbrisio’r effaith seicolegol ar y claf. Ni ddylai fod wedi cael ei roi mewn sefyllfa lle teimlodd nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond talu miloedd o bunnoedd am driniaeth breifat.

“Gadawyd Mr Y â dewis plaen; aros am driniaeth heb wybodaeth pa effaith y byddai hynny yn ei gael ar ei brognosis a’i driniaeth yn y dyfodol, neu dalu am driniaeth breifat i liniau’r ansicrwydd.  Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol.

“Rwyf bellach wedi cychwyn ymchwiliad ‘ar fy liwt fy hun’ i’r mater oherwydd credaf fod yna sawl claf arall a allai fod wedi cael eu gadael i aros yn rhy hir am driniaeth.”

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Matt Aplin, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, trwy anfon e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru neu ffonio 07957 440846.