Mae Awdurdod Safonau Cwynion newydd wedi cael ei lansio i wella safonau gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir gan gynghorau Cymru.

Mewn llythyr at Brif Weithredwyr Awdurdodau Lleol, amlinellodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, rôl yr Awdurdod Safonau Cwynion (CSA) fel rhan o’i swyddfa, a sefydlwyd trwy ddeddfwriaeth Senedd Cymru.

Nod y CSA yw sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.  Tasg y CSA yw gweithio â chyrff cyhoeddus o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i:

  • gefnogi ymdrin â chwynion yn effeithiol
  • casglu a chyhoeddi data
  • darparu pecynnau hyfforddi pwrpasol

Bellach mae’n ofynnol i gynghorau gyflwyno copi o’u gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion i’r Ombwdsmon o fewn chwe mis. Mae gofyniad iddynt hefyd gyflwyno gwybodaeth pob chwarter ynglŷn â pherfformiad eu cwynion.

Bydd yr Awdurdod, dan arweiniad y Pennaeth Safonau Cwynion, Matthew Harris,  yn monitro a chyhoeddi data cwynion ar gyfer pob awdurdod lleol, a chyrff cyhoeddus eraill, ar ei wefan. Mae ei dîm wedi bod yn ymgysylltu’n helaeth â chynrychiolwyr cynghorau Cymru, gan ddarparu hyfforddiant pwrpasol i staff y cynghorau ynglŷn â’r safonau newydd.

Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett: “Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn caniatáu i’m swyddfa dynnu sylw at ddata cwynion, gan nodi brigau a phantiau darparu gwasanaeth ar draws awdurdodau lleol Cymru.

“Am y tro cyntaf erioed, bydd data cyffredin, agored a thryloyw ar gael fel y gallwn ni wir ddadansoddi perfformiad awdurdodau lleol, ac yna rhannu arfer gorau i wella darpariaeth gwasanaeth.

Nod ein canllawiau newydd yw dod ag arferion yn ôl i aliniad eang – gan ddarparu safonau sylfaenol, iaith gyffredin a set o egwyddorion i danategu’r modd yr ymdrinnir â chwynion trwy wasanaethau cyhoeddus ar draws y wlad.”

Dywedodd y Pennaeth Safonau Cwynion, Matthew Harris: “Rydym wedi ymweld â phob Awdurdod Lleol yng Nghymru i ddeall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu ac i rannu ychydig o’n canfyddiadau cynnar. Bydd yr Awdurdod Safonau Cwynion yn gweithio â chyrff cyhoeddus i wella mynediad at brosesau cwyno a’u hamlygrwydd, darparu hyfforddiant di-dâl i drinwyr cwynion, a rhannu arfer da o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Yn bwysicaf oll, byddwn yn cefnogi Gwasanaethau Cyhoeddus i ddefnyddio dysgu o gwynion i sicrhau bod pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael canlyniadau da, nid yn unig y rheini sydd â’r modd neu’r gallu i gwyno.”

Gellir dod o hyd i Ddatganiad o Egwyddorion, Model Polisi Ymdrin â Chwynion, a Chanllawiau llawn yr Awdurdod yn: https://www.ombwdsmon.cymru/awdurdod-safonau-cwynion/.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Matt Aplin, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, trwy anfon e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru neu ffonio 07957 440846.