Mae adroddiad arbennig gan yr Ombwdsmon wedi dangos bod Bwrdd Iechyd wedi gadael i ferch aros am fwy na 13 mis am ymateb i’w chwyn yn ymwneud â thriniaeth ei mam.

Canfu’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, fod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi dangos ‘diffyg parch a chwrteisi’ wrth gysylltu â Mrs A (dienw). Er iddo gytuno i gyhoeddi ymddiheuriad ac ymateb i gŵyn, methodd y Bwrdd Iechyd i gyflawni ei addewid, hyd yn oed ar ôl i swyddfa’r Ombwdsmon ei atgoffa sawl gwaith.

Dyma’r ail dro yn unig iddo gyhoeddi adroddiad arbennig yn erbyn corff y GIG ers cael ei benodi chwe blynedd yn ôl.

Mae Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, Carol Shillabeer, wedi cytuno i ymateb yn bersonol i’r Ombwdsmon ar ôl iddo gynnal adolygiad i’r tîm ymdrin â chwynion a’u gallu a chapasiti i ddelio â chwynion.

Dangosodd yr adroddiad fod yr wybodaeth a dderbyniwyd oddi wrth y Bwrdd Iechyd wedi bod yn gamarweiniol a bod diweddariadau’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud dim byd dim ond codi disgwyliadau Mrs A bod ateb i’w chŵyn, a wnaethpwyd yn gyntaf ym mis Gorffennaf 2019, ar y gorwel.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r digwyddiadau a achosodd i mi gyhoeddi’r adroddiad hwn yn gwneud i mi boeni’n ddifrifol am reolaeth y Bwrdd Iechyd o ran ei swyddogaeth ymdrin â chwynion yn ogystal â’i onestrwydd.

Rwy’n ystyried ei fod yn annerbyniol i gorff cyhoeddus mawr fethu â chymryd camau buan ac effeithiol i sicrhau bod argymhellion y cytunwyd arnynt yn cael eu gweithredu, ac i fethu, mewn gwirionedd, â gwireddu addewidion rhwymol i mi fel Ombwdsmon.

“Er bod fy swyddfa yn parhau i fod yn sensitif i’r pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus yn sgil pandemig COVID-19, mae’r cytundeb gwreiddiol â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn rhagflaenu’r cyfnod hwn ac rwy’n llwyr ddisgwyl i’r Bwrdd Iechyd gydymffurfio â’m hargymhellion.”

“Rwy’n gobeithio y bydd rôl Safonau Cwynion newydd fy swyddfa yn cael effaith gadarnhaol ar drin â chwynion yng Nghymru, ac rwy’n annog Byrddau Iechyd i ymgysylltu’n llwyr â’r hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd gan fy staff”.