Collodd oedolyn ifanc sydd ag anableddau dysgu ac sy’n agored i niwed ei golwg yn ei llygad dde ar ôl i staff mewn uned breswyl arbenigol ar gyfer unigolion ag anabledd dysgu fethu â monitro ei hanaf yn briodol.

Gwnaeth Mrs X (dienw) gŵyn am y gofal a gafodd ei merch 24 mlwydd oedd, Y (dienw), pan fu hi’n byw mewn uned a oedd yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn 2018.

Roedd gan Y ddiagnosis o Awtistiaeth Annodweddiadol (yn cyflwyno gyda rhai symptomau awtistiaeth), Anabledd Dysgu – ysgafn a chymedrol ac anawsterau iechyd meddwl.  Mae ei hymddygiad allweddol yn cynnwys ymddygiad ymosodol geiriol a chorfforol, ymddygiad hunan-niweidiol, gwrthod cydymffurfio, dinistrio eiddo, ymddygiad defodol ac ymddygiad sy’n gymdeithasol amhriodol.

Gwnaeth Mrs X gŵyn oherwydd roedd yn pryderu bod ei merch wedi cael gofal llygaid annigonol yng ngoleuni ei hymddygiad hunan-niweidiol hysbys (a oedd yn cynnwys taro ei hun ar y pen a’r wyneb, gan achosi cleisiau).  O ganlyniad, roedd Mrs X yn pryderu na chafodd anaf llygad Y ei ddiagnosio’n gynt.

Cwynodd Mrs X nad oedd neb wedi deall pa mor ddifrifol oedd cyflwr Y, ac roedd o’r farn bod llygad Y wedi’i anafu am ryw chwe wythnos ar ôl i Y ei daro.  Dywedodd Mrs X fod Y yn ifanc i golli ei golwg yn y ffordd y gwnaeth a theimlodd fod hyn yn dorcalonnus ac yn anodd ei dderbyn.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod Y wedi cael gofal da o ran cynllunio a darparu i ddiwallu ei hanghenion anableddau dysgu arbenigol, bu diffygion difrifol yn y gofal a gafodd Y ym mis Mehefin 2018 yn ymwneud â rheolaeth ei llygaid oherwydd gwrthodwyd y cyfle iddi gael ei hatgyfeirio a chael adolygiad clinigol amserol.

Dywedodd yr Ombwdsmon ei fod o’r farn y bu ymgysylltiad â hawliau dynol Y o dan Erthygl 8, gan nad yw’r Bwrdd Iechyd wedi dangos yn ddigonol ei fod wedi sicrhau bod anghenion oedolyn ag anabledd dysgu, fel Y nad oedd yn gallu cyfleu ei phroblemau golwg yn effeithiol, yn cael eu parchu’n ddigonol.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon o fewn un mis.  Roedd y rhain yn cynnwys darparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs X am y methiannau a adnabuwyd a chyfeirio’r adroddiad at y Bwrdd, a Thîm Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y Bwrdd Iechyd yng nghyfarfod misol nesaf y Gwasanaeth Anableddau Dysgu.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Mae unigolion mewn lleoliadau gofal sefydliadol ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas, ac mae angen i gyrff cyhoeddus fod yn arbennig o wyliadwrus er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

“Dyma achos hynod ddifrifol lle mae menyw ifanc wedi’i gadael ag anaf parhaol a fydd yn newid ei bywyd. Mae’n bosibl y gallai fod wedi’i osgoi, hyd yn oed.

“Rwy’n falch bod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i weithredu fy argymhellion ac yn gobeithio y bydd hynny’n sicrhau na fydd yr un camgymeriadau yn digwydd eto. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn dod â rhywfaint o gysur i Mrs X a Y yn ystod cyfnod eithaf trawmatig.”

I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.