Yn unol â phob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, rydym yn monitro’r sefyllfa barhaus ynglŷn â Choronafeirws (COVID-19) ac yn rheoli’r effaith bosibl ar y sefydliad.

Ein defnyddwyr gwasanaeth

Ar hyn o bryd, rydym yn ymateb i negesueon ebost yn ôl yr arfer. Mae ein gwasanaeth ffôn arferol wedi’i ohirio, ond os gadewch neges byddwn yn ceisio eich galw yn ôl.

Yn unol â chyngor gan Lwyodraeth y DU, rydym yn gwneud trefniadau amgen i alluogi ein staff i weithio o gartref. Yn unol â hynny, rydym yn gweithio i gynnal ein lefel arferol o wasanaeth ac i geisio parhau i fod yn hygyrch i bawb sydd ein hangen.

Fel rhan o hynny, mae’n debygol y byddwn yn lleihau gohebiaeth papur. Byddem yn eich annog i gysylltu â ni trwy ebost lle bo hynny’n bosibl.

Darparwyr gwasanaeth

Pan fydd eich gallu i ddarparu gwybodaeth a ofynnwn amdani yn cael ei gyfaddawdu, rydym yn eich annog i gysylltu â ni’n uniongyrchol i drafod.

Mae’r mwyafrif o gwynion yn deillio o ddisgwyliadau sydd heb eu rheoli’n briodol. Mae’n debygol y bydd pwysau ychwanegol ar wasanaethau felly rydym yn eich annog i gytuno ar ddisgwyliadau realistig ag achwynwyr o ran eich gallu i ymateb. Gellir ymestyn amserlenni mewn amgylchiadau eithriadol.

Lle bo’n bosibl, efallai y byddwch yn dymuno ychwanegu ymatebion awtomatig i fewnflychau ebost (gan leihau’r galw ichi ymateb â llaw) ac egluro pryd y gall achwynwyr ddisgwyl ymateb.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei roi wrth i’r sefyllfa ddatblygu.