Canfu ymchwiliad gan Ombwdsmon fod camweinyddu difrifol gan Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr, sy’n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, wedi arwain at fyfyriwr o Gymru yn mynd i “ddyledion sylweddol”.

Yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, dioddefodd Mr X (di-enw) “straen sylweddol” ac aeth i ddyled annisgwyl o ganlyniad i gatalog o gamgymeriadau gan Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC).

Canfu’r adroddiad fod yr SLC wedi methu â rhoi gwybod i Mr X nad oedd ef yn gymwys am fenthyciad ffi dysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/2015 mewn modd rhesymol ac amserol. Arweiniodd y methiant hwn at Mr X yn mynd i ddyled o dros £7000 o ffioedd dysgu, na allai’r SLC roi benthyciad iddo ei dalu, gan ei adael mewn dyled sylweddol.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod yr SLC wedi gofyn yn anghywir i Mr X am dystiolaeth o’i amgylchiadau yn 2015/16, er iddo fod yn ymwybodol nad oedd gan Mr X hawl i gael nawdd. Yn ogystal, ni roddodd wybod iddo am hyn o fewn amserlen resymol.

Datgelodd ymchwiliad yr Ombwdsmon fod yr SLC yn gwybod ers Hydref 2015 na fyddai gan Mr X hawl i gael nawdd ffioedd dysgu. Eto, parhaodd i geisio gwybodaeth ynglŷn â’i amgylchiadau. Aeth y corff i’r fath raddau â chytuno mewn camgymeriad ar ei gais am nawdd tan fis Chwefror 2017, bron i ddeunaw mis yn ddiweddarach.

Wrth roi sylwadau ynglŷn â’r adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

 “Mae’n bryderus dros ben bod y corff sy’n gyfrifol am gyllid myfyrwyr wedi bod yn gyfrifol am fath gatalog o gamgymeriadau yn yr achos hwn.

“Canfu fy ymchwiliad fod camweinyddu’r SLC wedi arwain myfyriwr a oedd yn brwydro cyflwr iechyd i fynd i ddyledion sylweddol, a oedd ynddo’i hun yn destun straen mawr i’r unigolyn dan sylw.

“Yn dwysáu’r broblem oedd yr ymdriniaeth wael â chwyn Mr X gan yr SLC a’r Asesydd Annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru. Cymerwyd dwy flynedd i fynd i’r afael â hyn. Canfyddais fod proses ymdrin â chwynion yr SLC yn ddryslyd, ac ar un adeg, cododd ddisgwyliadau Mr X ei fod ganddo hawl i gael nawdd, dim ond iddo gael ei siomi pan eglurwyd y sefyllfa.

“Wrth ychwanegu hyn at y ddyled yr oedd Mr X wedi mynd iddo heb yn wybod, achosodd hyn straen pellach a hollol ddiangen iddo.”

Mae’r SLC wedi derbyn canfyddiadau’r ymchwiliad, ac wedi cytuno i ymddiheuro i Mr X, a thalu £500 o iawndal iddo. Mae’r Ombwdsmon hefyd wedi argymell bod yr SLC yn ad-dalu’r ddyled yr aeth Mr X i’w Brifysgol rhwng mis Rhagfyr 2014 a mis Mehefin 2015, a fydd nawr yn dod yn daladwy i’r SLC ar yr amodau a thelerau arferol.

Dywedodd yr SLC ei fod eisoes wedi comisiynu adolygiad o’i weithdrefnau ymdrin â chwynion a’i fod yn y broses o weithio â gwahanol weinyddiaethau’r DU i roi’r newidiadau ar waith. Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai, fel rhan o’r adolygiad o’i broses gwyno, ystyried y materion a godwyd gan y gŵyn hon.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno i weithio â’r SLC i ddiwygio ei brosesau ymdrin â chwynion i’w gysoni ag arfer gorau ar gyfer ymdrin â chwynion yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn annog darparwyr gwasanaeth cyhoeddus i fabwysiadu’r Egwyddorion a Chanllawiau Ymdrin â chwynion yn Dda, sydd ar gael yma.

I weld yr adroddiad, ewch yma.