Mae’n bleser gan yr Ombwdsmon gyhoeddi’r Cynllun Cydraddoldeb trwyadl cyntaf, sy’n cynrychioli newid sylweddol yn y ffordd y bydd y swyddfa’n cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb fel darparwr gwasanaeth a chyflogwr.

Mae’r cynllun yn cynnwys y cyfnod 2019/20 – 2021/22 ac yn manylu ar gamau penodol yr ymgymerir â hwy yn 2019/20.

Bydd y cynllun yn cyfrannu at ymdrechion parhaus y swyddfa i sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn ganolog i waith yr Ombwdsmon a sut y’i cyflawnir.

Mae’r cynllun yn nodi 11 amcan cydraddoldeb sy’n gysylltiedig â thri nod craidd Cynllun Corfforaethol yr Ombwdsmon 2019/20-2021/22.

Mae’r rhain yn cynnwys casglu data cydraddoldeb cynhwysfawr ac ystyrlon gan ddefnyddwyr gwasanaeth, targedu grwpiau achwynwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch i holl ddefnyddwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r cynllun hefyd yn amlygu sut y bydd y swyddfa yn ymdrechu i sicrhau bod cydraddoldeb wedi’i ymgorffori wrth gynllunio a gweithredu pwerau newydd yr Ombwdsmon, yn ogystal ag yn yr holl benderfyniadau a wneir.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Er bod ystyriaethau cydraddoldeb bob amser wedi bod yn ganolog i bopeth a wnawn, credaf fod y cynllun hwn yn cynrychioli newid sylweddol yn fy ymdrechion i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb ym mhob agwedd ar waith fy swyddfa.

“Hoffwn ddiolch i’r holl rhanddeiliaid a gefnogodd fy staff ac innau wrth ddatblygu’r cynllun hwn ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu ymhellach â hwy a’r cyhoedd wrth imi roi’r ymrwymiadau hyn ar waith.”

Hoffai’r Ombwdsmon fynegi diolchiadau arbennig am sylwadau a chyfraniadau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Diverse Cymru, Age Cymru, Cyngor Rhyngffydd Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae hefyd am ddiolch i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Cymru am hwyluso cyfathrebu â’u haelodau.

I ddarllen y cynllun, ewch i’r ddolen yma.