Cafodd seminar ym Mhrifysgol Aberystwyth ei annerch gan yr Ombwdsmon Catalaneg a Llywydd rhwydwaith yr Ombwdsmon Ewropeaidd, Rafael Ribo, yr wythnos diwethaf (21ain Mehefin). Cynhaliwyd y digwyddiad cyn i bwerau newydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ddod i rym ym mis Gorffennaf.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar y cyd gan Gymdeithas yr Ombwdsmon a’r Sefydliad Ombwdsmon Rhyngwladol, yn archwilio sut y gallai’r pwerau newydd helpu i wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a rhannwyd arfer gorau o wledydd Ewropeaidd eraill.

Ym mis Gorffennaf, daw cyfraith newydd i rym a fydd yn ei gwneud yn haws i aelodau o’r gymdeithas sy’n ddifreintiedig ac yn agored i niwed gwyno am wasanaethau cyhoeddus. Bydd pobl yn gallu cwyno ar lafar neu drwy Iaith Arwyddion Prydain, ac o bosibl drwy dechnolegau digidol eraill yn y dyfodol. Hefyd, bydd gan yr Ombwdsmon bŵer i lansio ymchwiliadau heb orfod derbyn cwyn ffurfiol, lle mae tystiolaeth i awgrymu y gallai mater ehangach fod er budd y cyhoedd.

Roedd y gwesteion a siaradwyr yn y seminar – dan y teitl ‘Grymoedd a Phosibiliadau Newydd: Yr Ombwdsmon a gwella darparu gwasanaethau cyhoeddus’ – hefyd yn cynnwys yr Ombwdsmon Ewropeaidd Emily O’Reilly, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llyr Gruffydd ac academyddion allweddol.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddod â chymuned yr Ombwdsmon ynghyd ac i rannu arfer gorau. Gwnaethom hefyd edrych ar sut y gallai pwerau newydd fy swyddfa roi mwy o lais i’r di-lais.

“Er enghraifft, rydym yn gwybod bod pobl weithiau’n amharod neu fod ofn arnynt ddod ymlaen, felly bydd y ddeddfwriaeth newydd yn caniatáu dull mwy rhagweithiol gan fy swyddfa.

“Yr wyf wrth fy modd bod Rafael Ribo wedi dychwelyd i Gymru i weld y ddeddfwriaeth yn ei lle. Bu ef yma diwethaf ym mis Hydref 2016 pan heriodd Cymru i fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol, felly mae’n wych ei groesawu’n ôl wrth i ni baratoi i weithredu ein pwerau newydd.”

Dywedodd Llyr Gruffydd, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Mae gan yr Ombwdsmon yng Nghymru rôl hanfodol o ran sicrhau bod unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n credu ei fod wedi dioddef anghyfiawnder, caledi neu fethiant gwasanaeth gan gorff cyhoeddus yn gallu gwneud cwyn.

“Trwy gryfhau rôl yr Ombwdsmon, ein nod yw gwella cyfiawnder cymdeithasol ac amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

“Mae’n bwysig cofio mai yn aml y bobl sydd fwyaf agored i niwed yw’r rhai sy’n dibynnu fwyaf ar wasanaeth cyhoeddus. Os nad yw gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau unigolyn, bydd ganddynt hyder yn yr Ombwdsmon i ymchwilio ac i unioni pethau.”