Roedd Mr G wedi dychwelyd i’w fflat ar ôl arhosiad tri diwrnod yn yr ysbyty ble gafodd lawdriniaeth. Wrth gyrraedd, sylweddolodd bod ei BMW, a oedd yn y broses o’i adfer ac wedi’i ddatgan fel bod oddi ar y ffordd, ar goll. Ar ôl hysbysu’r heddlu, cafodd wybod bod cyngor Sir y Fflint wedi symud y cerbyd.

Ni chanfu ymchwiliad yr Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth bod y Cyngor wedi ymgeisio i ymchwilio cronfa ddata cerbydau’r DVLA i adnabod y perchennog cyn ei symud, nag unrhyw dystiolaeth y cyhoeddwyd hysbysiad statudol i hysbysu’r tirfeddiannwr o fwriad y Cyngor i symud y cerbyd cyn gwneud hynny.

Yn olaf, canfu’r ymchwiliad, yn dilyn symud y cerbyd, dywedodd y Cyngor a’r datgymalwr cerbydau wrth Mr G bod y cerbyd wedi’i ddinistrio, er na gafodd ei ddinistrio nes pythefnos wedyn.

Roedd y cerbyd yn cynnwys offer a chyfarpar gwerth cannoedd o bunnoedd ac mae’r cyngor wedi cytuno i ddarparu iawndal o £2,500 i’r achwynwr am golli ei gar a’i gynnwys.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Cefais fy synnu gan y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at ddinistrio car yr achwynwr, ac yn amlwg yn yr achos hwn, mae’r cyngor wedi’i fethu.

“Dyma achos mor glasurol o gamweinyddu fel yr wyf wedi’i dystio ymhen pedair blynedd o’r swydd. Mae’n rhoi halen ar friw Mr G bod y car yn cynnwys offer a ddefnyddiodd i adfer ei BMW, ac rwy’n falch bod y cyngor am ddarparu iawndal o leiaf, i gyflenwi’r costau hyn.”