Lansiodd yr Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru ymchwiliad ar ôl derbyn tair cwyn gan gynrychiolwyr o ddefnyddwyr gofal a oedd wedi eu gadael yn aros am dros dair blynedd am ganlyniad eu hawliad am ofal iechyd parhaol. Dyma becyn o ofal a drefnir a ariennir yn gyfan gwbl gan y GIG ar gyfer unigolion y tu allan i’r ysbyty sydd ag anghenion gofal iechyd parhaus.
Trosglwyddwyd hawliadau’r tri achwynydd i Fwrdd Iechyd Addysg Powys, ar ôl i Lywodraeth Cymru osod system ble roedd ôl-hawliadau a gyflwynwyd i Fyrddau Iechyd unigol rhwng Awst 2010 ac Ebrill 2014 (a elwir yn ‘achosion Cam 2’) yn cael eu trosglwyddo yn bennaf i’r Bwrdd Iechyd. Ym Mehefin 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau yn dynodi na ddylid hawliadau o’r fath gymryd mwy na dwy flynedd i’w prosesu.
Mae tri achwynydd wedi bod yn aros dros dair blynedd i ddarganfod a yw eu hawliadau’n llwyddiannus, ac nid yw’r Ombwdsmon wedi derbyn unrhyw arwydd o bryd y mae’r hawliadau’n debygol o gael eu penderfynu.
Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd y Bwrdd Iechyd fod yna rhyw 330 hawliad o hyd i’w adolygu.
Yn rhoi sylw ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru:
“Yn anffodus, dyma achos o oedi cyfiawnder, gwrthod cyfiawnder. Tra fy mod yn dra ymwybodol o’r ffaith fod y Bwrdd Iechyd yn delio â nifer fawr o hawliadau ar hyn o bryd, a’u bod hwy wedi profi anawsterau wrth recriwtio, mae’n amlwg na chydymffurfiwyd â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac mae’r achwynwyr wedi’u gadael â llawer o ansicrwydd yn ystod y cyfnod hwn.
“Rwy’n pryderu fod yna ddarpar hawlwyr eraill sy’n wynebu’r un helynt fel y tri achwynydd, ac felly rwyf wedi argymell fod gan y bobl hyn yr hawl i’r un iawndal os nad yw eu hawliad wedi cael ei ddelio ag o fewn y cyfnod priodol”.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i’r achwynwyr a gwneud taliad o £125 i bob un er mwyn cydnabod eu bod wedi profi oedi sylweddol.